³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trafferthion i'r Toris

Vaughan Roderick | 12:05, Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2008

Digwyddodd rhywbeth anarferol iawn yng nghynhadledd newyddion wythnosol y Ceidwadwyr heddiw. Ar ôl datganiadau gan David Melding ynghylch yr economi ac Angela Burns ynglŷn â'r gyllideb gwahoddwyd y newyddiadurwyr oedd yn bresennol i ofyn cwestiynau. Tawelwch. Distawrwydd. Dim siw na miw. Yn y diwedd gofynnodd Betsan a finnau gwestiynau ond mewn gwirionedd ceisio osgoi embaras oedd y bwriad.

Roedd yr hyn ddigwyddodd yn enghraifft o broblem sy'n wynebu'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y cynulliad sef canfod strategaeth i wneud eu hun yn berthnasol mewn sefyllfa lle mae gan lywodraeth Cymru fwyafrif sylweddol. Prawf pellach o hynny yw bod llai na hanner y newyddiadurwyr wnaeth fynychu cynhadledd y newyddion y llywodraeth awr yn gynt wedi trafferthu aros o gwmpas ar gyfer sesiwn y Torïaid.

Cyn belled ac mae'n bosib synhwyro unrhyw strategaeth o ran y gwrthbleidiau mae'n ymddangos bod 'na wahaniaethau sylweddol rhwng tactegau'r ddwy. Tueddu awgrymu bod Plaid Cymru yn cael ei thwyllo a'i defnyddio gan Lafur mae'r Ceidwadwyr tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo'r Cenedlaetholwyr o gefni ar eu hegwyddorion er mwyn sicrhâi grym.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw mai Plaid Cymru ac nid Llafur yw'r prif darged i'r ddwy blaid. Mae 'na synnwyr gwleidyddol mewn hynny yn nhermau gwleidyddiaeth y cynulliad. Gyda Llafur wedi gostwng i'w phleidlais graidd yn 2007 mae'n bosib mai brwydr rhwng y tair plaid arall am y bleidlais wrth-Lafur fydd etholiad 2011.

Serch hynny, dyw'r strategaeth ddim yn un sy'n gwneud llawer o synnwyr yn nhermau'r calendr gwleidyddol. Wedi'r cyfan Etholiad Cyffredinol Prydeinig yw'r ornest fawr nesaf Yn nhermau hwnnw oni fyddai'n well i'r Ceidwadwyr, o leiaf, ddefnyddio eu llwyfan yn y Cynulliad i golbio Llafur er mwyn rhoi hwb i'w hymgeiswyr mewn cyfres o etholaethau ymylol ar hyd a lled Cymru?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:55 ar 22 Ionawr 2008, ysgrifennodd Penyberth:

    Mae hi'n drist meddwl mad oes gan newyddiadurwyr gwestiynau i'r brif wrthblaid y Cynulliad, neu hwyrach gyda mwyafrif mawr, fod y gwrthbleidiau yn amherthnasol yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.