成人快手

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Dyma'r flwyddyn wedi dod...

Vaughan Roderick | 17:39, Dydd Mawrth, 1 Ionawr 2008

Maddeuwch i mi am beidio blogio dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Pe bai gen i rywbeth i rannu fe fyddwn wedi gwneud! A dweud y gwir ar 么l blwyddyn mor brysur a diddorol dw i wedi bod yn cadw draw o'r gwleidyddion a'r gwleidyddiaeth!

Yr unig wleidydd i mi weld dros yr w欧l oedd Rhodri Morgan a hynny ar hap a damwain wrth iddo fe a finnau gwneud ein siopa munud olaf yn y Tesco lleol. Yr unig beth ddwedai am hynny yw bod 'na rywbeth braf iawn ynghylch byw mewn gwlad lle mae'r Prif Weinidog yn gorfod gwthio ei droli fel pawb arall! Cyn i chi ofyn gwnes i ddim edrych i weld p'un ai'r 鈥渇inest鈥 neu'r 鈥渧alue鈥 sy'n cael ei ffafrio yn Llanfihangel-y-pwll!

Heddiw Parc Ninian amdani i wylio Caerdydd yn curo Plymouth. Dydw i ddim yn ddyn mawr am chwaraeon ond mae gwylio g锚m yn rhagori ar y s锚ls! Ta beth, trwy hap a damwain digwyddais ddarllen cofnodion y pwyllgor sy'n ceisio ffurfio ymddiriedolaeth i gefnogwyr Caerdydd fel y rhai sy'n bodoli yn y rhan fwyaf o glybiau eraill. Mae'n ymdrech ddigon clodwiw ond yr hyn wnaeth fy nharo o'r cofnodion oedd y frawddeg fach yma;

鈥淚t was agreed that we needed to bring someone in who was able to help produce bi-lingual publicity鈥

Nawr dw i ddim am wneud m么r a mynydd o'r peth ond pan mae cefnogwyr Dinas Caerdydd yn gweld yr angen i ddefnyddio'r Gymraeg mae'n arwydd o newid agwedd weddol sylfaenol mewn rhan o'n cymdeithas sydd wedi bod yn ddigon didaro neu hyd yn oed yn elyniaethus i'r iaith yn y gorffennol. Dyw hi ddim yn lot o stori ond mae'n brawf cychwyn blwyddyn gyda rhyw fymryn o newyddion da!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:45 ar 2 Ionawr 2008, ysgrifennodd dewi:

    Blwyddyn Newydd Dda i bawb.....braf i weld bod Tescos wedi cychwyn labeli'n ddwyieithog ar rai o'u cynnyrch cymreig...fel yr Wyau beth bynnag. Yn sicr dyma'r achos nesaf i sicrhau cyndeithas ddwyieithog "normal" yma. Gobeithio bo Rhodri a phawb arall sy'n siopio yno yn eu prynu.

  • 2. Am 22:36 ar 8 Ionawr 2008, ysgrifennodd Y Parch. John Gillibrand:

    Yr ydym i gyd yn haeddu gwyliau dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd...

  • 3. Am 11:04 ar 11 Ionawr 2008, ysgrifennodd huw:

    Lle wyt ti ers tro, Vaughan ?

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.