Lincs dan y lach
Mae'r ³ÉÈË¿ìÊÖ dan y lach ar am ddefnyddio'r term "dan y lach" yn ormodol. Dyna'r unig reswm am y pennawd. Does a wnelo fe ddim byd a'r hyn sydd i ddod! Gan nad wyf wedi blogio rhyw lawer yr wythnos hon mae'n bryd i fi ddal lan ac ambell i stori sy'n mudferwi.
Dw i ddim yn ddigon cyfarwydd â'r sefyllfa i ddweud unrhyw beth mawr am helynt Ysgolion Gwynedd a byswn i byth yn beiddio datgan barn ynglŷn ag Ysgol Llanystumdwy gan fod gan gyfeillion i mi blant yno. Serch hynny dw i ddim yn meddwl bod y ffaith bod Lloyd George wedi bod yn ddisgybl yno yn ddadl arbennig o gryf yn erbyn ei chau.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn barnu'n wahanol gan gyflwyno'ryn San Steffan. Hyd yn hyn mae 14 aelod wedi arwyddo. Peth rhyfedd yw'r cynigion ysgrifenedig yma. Gellir eu gweld .Yr wythnos hon ar yr unfed diwrnod ar ddeg o'r unfed mis ar ddeg (dyddiad arwyddocaol wrth gwrs) cyhoeddodd Paul Flynn gyfres o gynigion yn rhestri'r milwyr Prydeinig sydd wedi eu lladd yn Afghanistan ac Iraq ac yn mynegi cydymdeimlad a'u teuluoedd. Roedd hon yn ffordd syml ac urddasol o wneud pwynt. Paul, gyda llaw fydd y gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde i wrando.
Draw ym Mlaenau Gwent mae pethau'n mynd o ddrwg i waith i Lafur. Soniais wythnos ddiwethaf mai Mick Antoniw a Nick Smith oedd y ceffylau blaen am yr enwebiad seneddol. Wel methodd Mick gyrraedd y rhestr fer a hynny yn bennaf oherwydd bod rheolau'r blaid yn mynnu bod o leiaf dwy fenyw a dau aelod o leiafrifoedd ethnig ar y rhestr o chwech. Ffrae ynglŷn â rhestr fer o fenywod yn unig a arweiniodd at yr hollt rhwng Llafur a Llais y Bobol yn y lle cyntaf ond mae'n ymddangos nad yw'r blaid ganolog wedi dysgu ei gwers i gadw ei thrwyn mas o wleidyddiaeth rhyfedd gogledd Gwent. Yn y cyfamser mae cyn arweinydd y cyngor, , a ddiorseddwyd wythnos ddiwethaf wedi cadarnhau y bydd yn sefyll yn yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf ond nid, o reidrwydd, dros Lafur. Ydy hynny'n golygu bod y gŵr safodd YN ERBYN Trish Law yn yr isetholiad cynulliad yn bwriadu DROS y garfan annibynnol? Ym Mlaenau Gwent mae unrhyw beth yn bosib. I ddilyn helyntion y Blaenau does un man gwell na .