TÅ· ar y tywod
Does dim dwywaith mai Plaid Cymru enillodd brwydr y gimics/syniadau gwreiddiol yn ystod etholiad y cynulliad. Mae'n anodd gor-ddweud ynglŷn â'r dirmyg sy gan y pleidiau eraill tuag at bolisïau fel cluniaduron i blant ysgol a grantiau i bobol sy'n prynu tŷ ar y tro cyntaf.
Mae'r ail bolisi yn arbennig wedi ennyn dirmyg y Torïaid sy'n awgrymu y byddai ond yn ychwanegu at chwyddiant ym mhrisiau tai.
Ond beth yw ? Draw yn Awstralia mae John Howard arweinydd chwaer blaid y Ceidwadwyr yn wynebu brwydr am ei einioes wleidyddol ar ôl degawd mewn grym. Na phoener. Mae gan blaid Mr Howard arf ddirgel yn eu meddiant sef cynyddu'r gwariant ar "" a "First ³ÉÈË¿ìÊÖ plus", cynlluniau poblogaidd a gyflwynwyd gan y llywodraeth nol yn y flwyddyn 2000.
Beth mae'r cynlluniau hynny'n gwneud? Ie, dyna chi, cynnig grantiau i bobol sy'n prynu tÅ· am y tro cyntaf.
SylwadauAnfon sylw
Mae cynllun cyffelyb yn nhalaith Texas hefyd!
Dwi'n methu yn lan a deall pam fod y syniad yma'n destun dirmyg. Yma yn yr Eidal mae mwy nag un o'r Regione "semi-autonomous", fel Trentino Alto-Adige a Friuli Venezia Giulia, yn cynnig yn union yr un peth - grant i bobol lleol heb incwm uchel i brynu ty cynta. Er mwyn sicrhau grant mae'n rhaid ichi fod yn byw yn yr ardal eisioes ers peth amser, a gall eich morgais ddim bod werth fwy na hyn a hyn.
Mae'r system yn llwyddianus iawn yn cadw pobol lleol ifanc yn yr ardaloedd yma, a does yna ddim chwyddiant mawr mewn prisau tai. Ble mae'r broblem?
Hei Vaughan - beth am holi Rhodri am hynt a helynt diwrnod "Vafanculo" un yr Eidal? (Gweler blog Beppe Grillo)