³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trwbwl yn yr iard gefn

Vaughan Roderick | 17:02, Dydd Gwener, 10 Awst 2007

Beth sy'n digwydd pan mae Plaid Genedlaethol yn ffurfio llywodraeth gyda'i harweinydd yn Brif Weinidog? Ydych chi'n cofio'r holl genedlaetholwyr yna oedd yn darogan trychineb etholiadol pe bai Ieuan Wyn Jones yn dewis bod yn brif weinidog yn hytrach na'n ddirprwy?

Wel dyma sy'n digwydd yn yr Alban yn ôl i'r Scottish Daily Mail.

SNP; 48%
Llafur; 32%
Ceid; 8%
Dem. Rhydd; 6%

Mae'n fis mel i lywodraeth Alec Salmond, wrth reswm, ond pedwardeg wyth y cant? Ydy Gordon Brown yn mynd i fentro galw etholiad cynnar pan mae na arolygon fel na yn ei iard gefn?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:35 ar 11 Awst 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Rhagorol i'r SNP - dyma'r fath o gefnogaeth sydd eisiau er mwyn cyfiawnhau refferendwm annibyniaeth. Os aiff cefnogaeth i'r SNP yn fwy na 50% anodd gweld sut y bydd y pleidiau eraill yn gallu cyfiawn hau eu gwrthwynebiad.

  • 2. Am 09:44 ar 11 Awst 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Canlyniadau rhyfeddol i'r SNP, oes na bosib y buasai y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gallu comisiynu 'poll' tebyg yng Nghymru...mi fuasai'n ddiddorol gweld prun blaid sydd wedi dod allan or busnes clymblaid yma ora.

  • 3. Am 14:58 ar 11 Awst 2007, ysgrifennodd Daran:

    Diddorol hefyd gweld cweit pa mor amhoblogaidd mae'r Ceidwadwyr a Lib Dems yn yr Alban. Mae'r ail garfan wedi syrthio'n gloi.

  • 4. Am 17:31 ar 11 Awst 2007, ysgrifennodd Helen:

    Ar yr wyneb, gellid cymharu'r sefyllfa bresennol yn yr Alban â'r hyn a allai fod wedi digwydd pe bai'r "Enfys" mewn grym, ac Ieuan wrth y llyw - ar yr wyneb! Fodd bynnag, mae ffactor pwysig i'w ystyried yma, sef mai plaid gyntaf yr Alban oedd yr SNP a'r ail blaid oedd Llafur, yn ôl canlyniadau'r bleidlais ar 3 Mai, yn wahanol iawn i'r sefyllfa yng Nghymru, lle cafodd y Blaid Lafur ddigon o bleisleisiau i'w rhoi yn y safle cyntaf, er nad enillodd ddigon o ganran o bell ffordd i gael mwyafrif absoliwt, a lle daeth y Blaid yn ail. Dyma'r gwahaniaeth hanfodol rhwng canlyniadau Cymru a'r Alban. Ffactor arall i'w gofio yw y buasai'r SNP yn annhebygol iawn o glosio at y Ceidwadwyr i ffurfio enfys Albanaidd pe buasai canlyniadau etholiadau'r Alban rywbeth yn debyg i'r rhai yng Nghymru.

    O ran dy ail bwynt, Vaughan, bydd yn rhaid i Brown aros i weld ffordd mae'r gwynt yn chwythu yn nes at yr adeg y byddai'n meddwl galw etholiad - gwanwyn 2008??? Pe bai'r SNP yn dal mor boblogaidd, byddai'n rhaid iddo ddod yn Brif Weinidog hynod o boblogaidd yn Lloegr i beidio â dioddef lleihad dybryd ym mwyafrif Llafur. Ar y llaw arall, yn enwedig ers datganoli, efallai y bydd pleidleiswyr yr Alban yn pleidleisio'n fwy tactegol, yn unswydd i gadw'r Torïaid allan, a phe bai hynny'n digwydd, gallai Llafur ddal i wneud yn reit barchus. Dyma ddrwg y drefn etholiadol sydd ohoni ar lefel San Steffan - pe câi cynrychiolaeth gyfrannol ei chyflwyno, gallem weld gwahaniaeth mawr yn y modd y mae pobl yn bwrw eu pleidleisiau. Hefyd, gallem hyd yn oed weld ymgeiswyr megis y 'Cicciolina' yn sefyll a gwneud yn weddol barchus, ond dyma bris democratiaeth, fel a ddywedais o'r blaen.

  • 5. Am 20:32 ar 11 Awst 2007, ysgrifennodd yr eog a ffu:

    Mae'r rhugnu dibendraw am yr enfys yn bygwth tarfu ar y blog ma... dydi un pol piniwn (digon amheus o'r ffigyrau) am y sefyllfa yn yr Alban ddim yn cyfiawnhau clymblaid bregus efo dipsticks fel Bourne a German.
    Fentrwn i fod statws Plaid dipyn yn uwch nac y bu hi oherwydd y glymblaid newydd.

  • 6. Am 02:02 ar 12 Awst 2007, ysgrifennodd Carwyn Edwards:

    Mae'n digon bosib fydda rhaid i Llafur cael clymblaid efo'r Democratiad Rhyddfrydol a'r SNP/Plaid i aros mewn grym yn San Steffan. Dyna fydda wir diddorol!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.