成人快手

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Ar goll ar y we

Vaughan Roderick | 14:27, Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2007

Os ydych chi'n disgwyl yn eiddgar am y penodiadau cabinet mae gen i newyddion drwg. Mae fory yn debycach na heddiw a Dydd Iau yn bosibilrwydd. Och gwae ni!

Cyfle i bostio ambell i linc felly. Dw i wedi canmol blog o'r blaen. Cefnogwr Llafur yw'r awdur ac mae'n un o'n blogwyr mwyaf meddylgar gan herio'r consensws chwith-canol, cenedlaetholgar sy'n nodweddi'r rhithfro Gymreig. Fe wnes i fwynhau'r erthygl yn fawr. Mae Normal Mouth yn gwbwl cywir wrth ddweud bod cynrychiolaeth gyfrannol, er yn "decach" o safbwynt dosranni seddi, yn gallu bod yn hynod annheg wrth ddosbarthu grym gan wobrwyo pleidiau bach. Mae'r cwestiwn yma ganddo yn enghraifft dda o'i bwynt. "Consider that the Lib Dems occupied 22% of cabinet places on 13% of the vote in 2000 鈥 almost as disproportionate as Labour鈥檚 60% of seats on 32% of the vote."

Un enghraifft o'r pwynt yw'r consesiynau y mae'r Blaid Werdd yn Iwerddon wedi sicrh芒i gan Fianna Fail yn sgil yr etholiadau diweddar yn y weriniaeth. Mae'r yn enghraifft ryfeddol o'r ffordd y mae gwleidyddiaeth a chymdeithas y wlad honno yn newid. Pwy fyddai wedi meddwl nol yn nyddiau de Valera neu Haughie y byddai arweinydd Fianna Fail rhiw ddydd yn dweud hyn; "Our sexual orientation is not an incidental attribute. It is an essential part of who we are. All citizens, regardless of sexual orientation, stand equal in the eyes of our laws,Sexual orientation cannot, and must not, be the basis of a second-class citizenship."

Fe fydd dilynnwyr gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon yn gyfarwydd a safle rhagorol . Mae ganddo sylw diddorol am gyfarfod Belfast ddoe. Mae'n dyfynnu o'r Irish Times i awgrymu y gellid gweld y cyfarfod fel cyfle i Unoliaethwyr yn hytrach na rhiw fath o barti dathlu i bleidiau cenedlaethol y gwledydd Celtaidd.

"Some observers tend to see this as a 鈥淐eltic鈥 ganging-up against Westminster. Its real potential, however, might be in enabling unionists to counter an exclusively North-South focus which republicans hoped would presage further constitutional change."

Mae'n wir wrth gwrs bod Cyngor Prydain-Iwerddon wedi ei greu ar gais yr unoliaethwyr i geisio tynnu Weriniaeth i mewn i fframwaith gwleidyddol oedd yn cynnwys pob rhan o'r ynysoedd yma. Yn wir "Cyngor yr Ynysoedd" oedd yr enw rhamantus gwreiddiol. Serch hynny go brin y byddai unrhyw un wedi rhagweld y sefyllfa lle'r oedd pump o'r saith prif weinidog neu ddirprwy brif weinidog oedd yn bresennol yn genedlaetholwyr.

Mae 'na erthygl ddiddorol arall am y cyfarfod yn ar flog rhagorol "."


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:30 ar 18 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    "Serch hynny go brin y byddai unrhyw un wedi rhagweld y sefyllfa lle'r oedd pump o'r saith prif weinidog neu ddirprwy brif weinidog oedd yn bresennol yn genedlaetholwyr."

    Vaughan - pam fod rhai prif weinidogion yn cael eu galw'n 'genedlaetholwyr' ac eraill ddim? Does bosib nad yw Gordon Brown yn haeddu ei le bellach fel cenedlaetholwr Brydeinig? Os nad yw mynnu fod pobl yn dysgu Saesneg, chwifio baner gwlad a galw am wersi mewn Prydeinidod yn arwydd o genedlaetholdeb - beth sydd?

    Amser i'r wasg a'r cyfryngau beidio bod yn rhy rhagfarnllyd. Beth sydd - ofn pechu'r Blaid Lafur petaech yn ey galw'n genedlaetholwyr? Neu a yw cenedlaetholdeb Brydening yn 'normal' tra fod cenedlaetholdeb Gymreig yn 'abnormal'?


  • 2. Am 15:06 ar 18 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Pwynt digon teg. Cendlaetholwyr Celtaidd y oeddwn i'n golygu. Go brin y gellir cyfri Gordon Brown yn rhan o'r un ffrwd a FF,SF,PC a'r SNP!

  • 3. Am 15:11 ar 18 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cenedlaetholwr (Cymreig nid Prydeinig) Blin:

    Ychydig oddi ar y pwnc, a chyd ddigwyddiad llwyr efallai, ond yn ogystal a'r blogiwr 'meddylgar' Normal Mouth, mae defnyddiwr wikipedia o'r un enw wedi bod yn brysur yn addasu erthygl Plaid Cymru, er mwyn sicrhau bod y geiriau 'fascist' ac 'anti-semitic' yn ymddangos yn yr erthygl.

    (Ar , pob tro welwch y gair 'Plaid Cymru', cliciwch ar '(diff)' i'r chwith o deitl yr erthygl i weld sawl tro mae wedi mynd i'r drafferth o'i addasu.)

    Mae hefyd wedi penderfynnu dileu pob cyferiad at 'socialism' o fewn yr erthygl am ryw reswm?

    Mae sawl unigolyn a'r yn anhapus gyda'r ymgais amlwg i bardduo enw'r Blaid, a phob tro mae rhywun yn ei ddileu, mae'n ei gynnwys eto, efallai wedi'w arall-eirio ychydig.

    Efallai ei fod yn gallu ysgrifennu'n gywrain iawn, ond mae ei gymhellion yn hollol glir.

  • 4. Am 20:16 ar 18 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    A bod yn onest mi fyddwn yn dadlau na lwyddodd y Blaid Werdd i orfodi unrhyw gonsesiynau ar FF. Roedd y cyfan o'r materion amgylcheddol a gytunwyd arnynt ar agenda FF beth bynnag.

    Ni ildiodd FF ar ddau bwynt oedd i fod yn allweddol i'r Blaid Werdd - atal y cynlluniau trychinebus i adeiladu priffordd trwy Tara ac atal yr americanwyr rhag defnyddio maes awyr Shannon at bwrpasau rhyfelgar.

    Yr hyn y gellir ei ddweud ydi bod presenoldeb gweinidigion Gwyrdd yn y llywodraeth am gadw cynlluniau amgylcheddol FF yn uchel ar yr agenda. Mae'n ddigon posibl mai syrthio i lawr yr agenda, neu cael eu anghofio'n llwyr fyddai eu hanes fel arall.

    Dydi FF byth yn gadael i'w partneriaid llywodraethol eu harwain i lawr llwybrau polisi nad ydynt am eu dilyn beth bynnag.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.