³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Guto Rhuanedd a Siambo

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2007


Y naill ffordd neu'r llall mae dyddiau llywodraeth leiafrifol Rhodri Morgan wedi eu rhifo. Eto, yma yn y bae mae'r busnes o lywodraethu yn gorfod parhau gyda gweinidogion yn ymddwyn fel pe bai nhw'n sicr o'i swyddi.

Y bore 'ma mae'r gweinidog amaeth Jane Davidson wedi rhyddhau datganiad arall ynglŷn â Siambo. Y bwriad yw difa'r anifail ond mae gan drigolion Skanda Vale wythnos arall i gyflwyno tystiolaeth i geisio newid meddyliau. A fydd Siambo yn goroesi gweinidogaeth Ms. Davidson? Fe gawn weld.

Mae'r grŵp Llafur yn cwrdd ar hyn o bryd i drafod clymblaid coch/gwyrdd. Does dim dwywaith y bydd Llafur o blaid. Cyfarfod Plaid Cymru yfory yw'r un pwysig. Gallai hwnnw fynd y naill ffordd neu'r llall gyda rhai o fawrion y Blaid yn ceisio dwyn perswâd munud olaf ar yr aelodau.

Diwrnod ar ôl yr etholiad fe gafodd Guto Thomas a Rhuanedd Richards bet ynghylch pwy fyddai'n ffurfio llywodraeth gyda Guto'n ffafrio'r enfys a Rhuanedd yn rhagweld rhiw fath o lywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur. Mae'r "tenner" wedi bod yn mynd nol a mlaen fe yo-yo. Ym mhwrs Rhuanedd mae e ar hyn o bryd ond mae Guto'n dawel hyderus.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.