Y Blog BYW 10-11
10.59 Y blaidlais bost yn Llanelli yn agos iawn. Plaid yn meddwl bod hynny'n ffafrio nhw
10.50; Ein panelwyr ni mewn hwyliau da heno ...dioch byth! Eleri Morgan yn darogan y bydd hi'n saith y bore cyn cyhoeddi canlyniadau Caerdydd
10.40 Richard Wyn yn awgrymmu y bydd canran y bleidlais Lafur yr is heno nac mewn unryw etholiad ers 1918
10.35 rhaglen S$C wedi cychwyn Aled Huw yn darogan bod Llanelli'n agos
10.30 Mwy o'r arolwg
Pwy ddylai fod a'r dylanwad mwyaf dros lywodraeth Cymru?
Y cynulliad 56%
San Steffan 19%
10.28; "Turnout" o hyd at drigain y cant mewn ardaloedd Ceidwadol yn Abertawe a Chaerdydd
10.25 Canlyniad arall o arolwg barn y ³ÉÈË¿ìÊÖ.
Os oedd na refferendwm i droi'r cynulliad yn senedd a'r hawl i ddeddfu a chodi trethi. Sut byswch chi'n pleidleisio?
Ie;47%
Na;43%
Ansicr 10%
10.20 Y Toriaid yn hyderus yng Ngorllewin Casnewydd. Llafur yn becso am ddwyrain y ddinas
10.00; Mae'n ddeg o'r gloch. Bant a ni felly. Dwy'n cyfrannu i raglen Radio Cymru ymhen ychydig funudau ac yn cychwyn ar S4C am 10.30. Gai bach o rybudd- peidiwch â disgwyl gormod o flogio yn yr oriau cynnar hesb a maddeuwch i mi am unrhyw "deipos" neu gam-sillafu. Fe fydd cyflymdra a chywirdeb ffeithiol yn bwysicach na chywirdeb teipio heno! Mae arolwg barn gan y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn awgrymu y bydd 58% o'r etholwyr yn pleidleisio...mi fwytai het Richard Wyn Jones os ydy honna'n gywir. Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu mae'r llywodraeth glymblaid rhwng Llafur a Phlaid yw hoff glymblaid bosib yr etholwyr gyda'r "enfys" yn ail. Y dewis lleiaf poblogaidd yw clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
SylwadauAnfon sylw
Edrych mlaen i'r rhaglen heno Vaughan. Yn ol pob son, "turnout" siomedig yma yn Stiniog tua 30%. Sgen ti unrhyw sibrydon a shocks posib i ni Vaughan?
edrych ymlaen yn fawr i ddilyn yr holl hanes - y blog dros yr wythnosau diwetha wedi bod yn gret. cadwa'r gwaith da i fynd tan y bore!
58%turnout.....nefar in Ewrop good boy!
Ppaid poenj am r teipos Vaughan!
Pob hwyl heno -beth am y posibilrwydd o glymblaid Llafur gyda'r annibyns tybed?
oes gan eaglestone unrhyw siawns yn arfon?
Diolch am y blog. mae wedi bod yn ddiddorol iawn, a dwi yn un sy'n edrych ymlaen am noson gyffrous.
Vaughan,
Wedi mwynhau y blog yn fawr iawn - Diolch
Nodyn - Turnout yn Wrecsam yn isel, dipyn gwell yn Ne Clwyd - tua 45% mewn ardaloedd gwledig fel Dyffryn Ceiriog, tipyn is mewn ardaloedd Llafur fel Cefn Mawr.
Gobeithio fod y sibrydion am Llanelli yn gywir, ond bydd hi'n agos iawn. Roedd Llafur wedi sicrhau fod bownsars mawr yn gwisgo crysau t coch llachar wrth ddrysau yr holl orsafoedd pleidleisio er mwyn rhoi pwysau ar yr etholwyr i bleidleisio Llafur, Tad Catherine ei hunan oedd un o'r bownsars ym Mhontyberem! Turnout ym Mhontyberem yn tua 48% am 7yh.
ty'd nol ar radio cymru - pethau'n dechrau mynd braidd yn ddiflas - angen pundit go iawn! sut mae pethau yng ngorllewin clwyd? unrhyw siawns y bydd pugh yn llwyddo ennill ar draul erchylldra'r ymgeisydd ceidwadol?
'Bownsars' Roeddwn yn meddwl nad oedd hawl gwisgo crysau lliwgar mor agos i'r orsafoedd bleidleisio...
unrhyw syniad beth yw'r turnout eto, Vaughan?
Iow! Cieran, ti'n iawn?!
Neis gweld ti ar y teledu, yn edrych yn smart! Ges i sioc gweld ti'n y car gyna!
Unryw prospect am Ynys Mon?? Gyna i deimlad reit dda y bydd Plaid Cymru yn dod ar y brig.
Dal ati.
Huw.XX