Tu hwnt i'r clawdd
Ac eithrio ychydig o flogio o adre (ydw dw i mor drist â hynny!) dw i ar wyliau'r wythnos hon ac wedi cael cyfle i ddal lan a phethau y tu hwnt i swigen opera sebon y Bae. Mae Tony Blaid wedi cyhoeddi ei fod am fynd...wir yr. Mae Llafur yn cynnal etholiad i ddewis dirprwy arweinydd ac mae'r Torïaid wedi bod yn ymgecru ynglŷn ag ysgolion gramadeg.
Wrth gwrs os oeddech chi'n aelod o'r mwyafrif yng Nghymru sy'n dibynnu ar y cyfryngau Prydeinig am eu newyddion fe fyddwch yn gwybod llawer am y stŵr ynghylch ysgolion gramadeg a "city academies" er nad ydy'r naill na'r llall yn bodoli yng Nghymru. Ar y llaw arall fysech chi'n gwybod nemor ddim am y llywodraeth yng Nghaerdydd sy'n mynd i reoli talpiau helaeth o'ch bywyd chi am y pedair blynedd nesaf.
Mae diffyg diddordeb papurau a chyfryngau Llundain yn yr hyn sydd yn digwydd yng Nghymru yn hen gŵyn wrth gwrs. Mae'n anodd deall y rhesymeg newyddiadurol nac busnes sy'n gyfrifol am y sefyllfa.
O safbwynt newyddiadurol roedd y digwyddiadau yng Nghymru yn ddifyr i unrhyw un yn unrhyw ran o Brydain sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth. O safbwynt busnes ar y cyfan mae papurau Llundain yn gwerthu cymaint os nad mwy o gopïau yng Nghymru na'r Alban. Eto'r Alban sy'n cael y driniaeth arbennig gyda rhifynnau rhanbarthol.
Ydy'r sefyllfa hynny yn debyg o newid? Yn anffodus nac ydy. Yr unig beth a allai newid y sefyllfa yw pe bai darllenwyr Cymreig papurau Llundain yn dechrau troi eu cefnau arnynt a dyw hynny ddim yn debygol.
Efallai y bydd pethau'n newid oherwydd y we ond does dim sicrwydd o hynny. Ar hyn o bryd mae'r Guardian yn buddsoddi'n helaeth i ddatblygu fersiwn rhanbarthol o'i safle fydd yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau a gwleidyddol un wlad arbennig. Da iawn. Nid Cymru yw'r wlad honno...ond yr Unol Daleithiau!
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n dal yn ffyddiog bydd ymddangosiad y papur dyddiol Cymraeg Y Byd (pan fydd yn ymddangos!) yn newid tipyn ar y sefyllfa bresennol parthed y sylw a roddir i faterion gwleidyddol Cymreig gan y papurau a'r cyfryngau yn Llundain. Bydd y ffaith fod papur o'r fath yn cael ei gyhoeddi ynghyd ag erthyglau diddorol ac efallai dadlennol yn siwr o neud i ambell newyddiadurwr Llundeinig droi ei gyfeiriadau tuag at yr hyn sy'n digwydd ym Mae Caerdydd a rhannau eraill o Gymru. Cawn weld!
Anffodus dwi ddim yn cytuno a Bil. Pan mae gwerthiant papurau newydd yn Prydain mynd i lawr diolch i'r we pa tystiolaeth sydd yna i dweud fydd papur newydd ar y farchnad llwyddo. Dylid "Y Byd" canolbwyntio ar creu papur newydd a'r lein i cystadlu yn erbyn yr ³ÉÈË¿ìÊÖ.
Does ddim dyfodol unrhyw ffordd arall!! Dwi gobeithio llwyddiant iddynt ond fyddwn ddim rhoi arian arno!!
Debyg iawn fy mod yn anghytuno a Carwyn. Pan fydd y gair yn ymddangos ar ddu a gwyn bydd eraill yn cymryd sylw ohono. Dwi'n digwydd cofio darllen y misolyn Barn yn ol yn y saithdegau ac fe lwyddodd erthyglau golygyddol y diweddar Alwyn D Rees i ddenu ymateb a sylw o sawl cyfeiriad. A beth am S Lewis a'i gyfres o erthyglau yn Y Faner o dan y teitl Cwrs y Byd - oherwydd eu bont ar ddu a gwyn ar ar gael yn hawdd i'r cyhoedd mi gawsant sylw ymhell tu hwnt i gylchrediad Y Faner adeg hynny.
Amser a ddengys siwr gen i.
Mae byd Papurau Newydd Llundain yn oligopolistig. MAe ymddygiadau rhyfedd yn digwydd o dan sefyllfaoedd ecomonomaidd fel na. Er engrhaifft mai na duedd i gwmniau ddilyn eu cysteadleuwyr. Rwy'n tybio bod un o'r papurau wedi cael gwared o'i newyddiadwr cynreig ac mae';r lleill wedi dilyn......dim just gwleidyddiaeth ond yn chwareuon hefyd mae na lai o sylw.
Yr ateb yw i gynyddu cylchrediad ein papurau ni - y trwbl yw bod Lowri Turner yn y Western Mail yn ddigon i droi unrhyw un i ffwrdd........
Dwi'n rhannol gytuno a Charwyn Edwards. Mae angen mawr am gystadleuaeth i dudalen newyddion Cymry'r Byd, sydd ar ei orau yn blywfol llwyr ac yn methu edrych tu hwnt i Glawdd Offa, ac ar ei waetha ond yn gyfieithiad uniongyrchol o dudalennau ³ÉÈË¿ìÊÖ Wales. Mae'n gwbl groes i holl bwynt safle gwe newyddion yn y Gymraeg! Gobeithio'n fawr fydd gan Y Byd orwelion tipyn pellach, boed ar bapur neu ar lein, ca felly'n ysgogi Beeb Llandaf i wneud yr un peth.