³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Seddi i'w gwylio

Vaughan Roderick | 17:13, Dydd Mawrth, 1 Mai 2007

Mae pawb yn hen-gyfarwydd erbyn hyn â'r seddi allweddol yn yr etholiad yma ac fe fyddwn ni i gyd yn disgwyl yn eiddgar am ganlyniadau Aberconwy a Gogledd Caerdydd, Ceredigion a Llanelli. Ond dw i am restri pum sedd arall i'w gwylio lle y gallai pethau annisgwyl ddigwydd, un o bob un o'r rhanbarthau etholiadol.
Yn y gogledd mae'n werth cadw golwg ar , Mae llawer o sôn wedi bod am seddi cyfagos Gorllewin Clwyd a Delyn ond os ydy hi'n noson drychinebus i Lafur gallai hon fynd hefyd.
Yn y Gorllewin a Chanolbarth dw i'n dewis fel etholaeth lle mae sioc yn bosib. Ydy'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwylio eu cefnau'n ddigon da fan hyn tra'n taflu adnoddau a gweithwyr at Geredigion?
yw fy newis yng Ngorllewin De Cymru. Mae yna sibrydion rhyfedd yn dod o'r ail ddinas y gallai'r gweinidog menter, Andrew Davies, fod mewn trafferthion.
Yng Nghanol De Cymru gallai gweinidog cabinet arall, Jane Hutt, fod mewn peryg ym . Cafodd Llafur ganlyniad gwael mewn is-etholiad Cyngor yma rai wythnosau yn nôl. Ydy hynny'n argoeli rhywbeth?
Yn olaf yn yn Nwyrain De Cymru fe fyddwn i'n awgrymu gwylio allan am ganlyniad sioc y noson yn 1999. Ydy'r un peth am ddigwydd eto?
Nawr, mae'n ddigon posib na fydd yr un o'r seddi yma'n newid dwylo. Dyma'r ail reng o frwydrau ond fel yn Rygbi mae'r ail reng yn gallu ennill y gêm!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:21 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Os bydd Llafur yn colli Gorllewin Abertawe ac Islwyn (sydd yn anhebygol wrth gwrs) pa Blaid sydd yn debygol o elwa? Plaid Cymru yn y 2? Annibynol yn Islwyn?

  • 2. Am 09:31 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Caerffili yn agos hefyd yn ol y son. Y bleidlas Lafur yn diflannu'n gyflym.

  • 3. Am 11:48 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd Richard:

    Beth am Gastell-nedd?

  • 4. Am 12:13 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd llyr:

    Plaid Cymru mae'n debyg yn Abertawe, ond mi fydden nhw'n colli'r ail sedd etholaeth (Dai Lloyd) pe tase nhw'n ennill. Dwi ddim yn siwr am Islwyn

  • 5. Am 14:10 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Richard, Dwy ddim yn gwybod am Gastell Nedd. Mae Alun Llywelyn yn ymgeisydd cryf ond 'dwy'n hoff iawn o Gwenda Thomas a dwy'n tybio bod ganddi dipyn o bleidlais bersonnol. Ond dwy ddim yn diystyrru'r posibilrwydd y gallai na fod "Islwyn" arall...canlyniad does neb wedi ei ragweld.
    Llyr, mae'r ymgeisyddd annibynnol yn gwneud marc yn Islwyn ond, fel yng Ngaherffili, dyw hi ddim yn eglur beth fydd effaith hynny ar y canlyniad.

  • 6. Am 23:46 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd Dafydd Pritchard:

    A fyddech chi'n credu mai celwydd diweddaraf y Democratiaid Rhyddfrydol ar stepen y drws yng Ngheredigion yw mai Plaid Cymru sy'n rheoli'r Cyngor Sir yma?! Byddech, wrth gwrs!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.