³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Jack Brown- Dwyrain Caerfyrddin a Llanelli

Vaughan Roderick | 10:22, Dydd Mawrth, 1 Mai 2007

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau cwmni Jack Brown yn llunio prisiau betio etholaethol ar gyfer y blog. Mae croeso i chi fentro ffeifar rithwir.

Dw i'n ildio i bwysau yn fan hyn! Ar ar ôl sawl cais dyma brisiau Karl ar gyfer dwy o etholaethau'r Gorllewin.

Gorllewin Caerfyrddin a de Penfro

Plaid Cymru 4-7
Llafur 5-2
Ceidwadwyr 7-2
Dem. Rhydd. 50-1


Llanelli

Plaid Cymru 8-11
Llafur EVS
Ceidwadwyr 100-1
Dem. Rhydd. 100-1

Os ydy'r ffefrynnau yn ennill ym mhob ras etholaethol (Byddan nhw ddim- dyna pam y'ch chi byth yn gweld bwci tlawd)

Llafur 24-25* (-4/5)
Plaid 8 (+3)
Ceidwadwyr 3 (-)
Annibynnol 1/2*

* Dyw Karl ddim yn gallu dewis rhwng Llafur ac Annibynnol yn Wrecsam

Carwyn Jones yw'r ffefryn i olynu Rhodri pan ddaw'r amser ond er gwaethaf sibrwd am gytundeb rhyngddyn nhw mae Karl yn rhagweld mae Jane Davidson fydd ei brif wrthwynebydd. Ar ôl dweud hynny er mai Carwyn yw'r ffefryn amlwg ym Mhen-y-bont dyw e ddim yn gallu bod yn gyfan gwbwl sicr o'i sedd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:48 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mae Karl yn iawn am Wrecsam mae hi'n anodd iawn ei darllen hi yma. Chydig iawn o bosteri, chydig o gnocio drws, lot o rannu taflenni yn ganol dref...distaw iawn ar y cyfan.

  • 2. Am 13:47 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Myfyr Ap Tomos:

    Da gweld bod Plaid am ennill 3 sedd.

    Dwi'n cymryd mai Nant Conwy ydi'r 3ydd sedd y dylse nhw ennill?

  • 3. Am 13:57 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Myfyr dwy'n cymryd bod ti'n golygu Aberconwy os felly mi wyt ti'n gywir.

  • 4. Am 21:57 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Daran:

    Dim digon o Poles yw'r son wrth gwrs yn Wrecsam - a hefyd tawelwch yr evening leader. Byddai hi ddim yn synnu fi o gwbl i Lafur cipio un nol fanma. Diddorol gweld bod Karl yn ffeindio hwn yn anoddach na Llanelli, er enghraifft.

    Gan fod William Hill nawr wedi cau'r cwpon, ond chi sy'n dal i gadw y bets i fynd.

    Syniad arall - bets ar canlyniad cynta, canlyniad ola?

    O be wnewn ni heb etholiad! Diolch fyth bydd un lleol blwyddyn nesa, a falle un Prydeinig cyn hynny. Paid cau lawr y blog jest eto Vaughan...

  • 5. Am 08:18 ar 2 Mai 2007, ysgrifennodd cardi:

    Diddorol. Ond pam taw 'mond 37 yw cyfanswm y seddi?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.