Enfys y bore, aml gawodau
Mae 'na ambell o gawod o gwmpas o hyd i ddilynwyr yr enfys. Os nad wyf yn camddarllen pethau'n llwyr dw i'n synhwyro bod Plaid Cymru ar fin dod a'r trafodaethau â Llafur i ben gan ganolbwyntio ar siarad â'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dw i'n weddol sicr hefyd y bydd y tair plaid yn cyrraedd cytundeb ac y bydd cyngor cenedlaethol Plaid Cymru yn cymeradwyo'r cynllun.
Ond, a dyma'r ond fawr, dwi'n amau y gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol simsanu. Dw i ddim yn rhagweld y bydd Mike German yn troi nôl at Lafur ond dw i yn meddwl bod hi'n bosib (posib sylwer, nid tebyg) y bydd cynhadledd y blaid Ddydd Sadwrn yn penderfynu cefnu ar glymbleidiau a chytundebau'n llwyr gan orchymyn i'w haelodau fod yn wrthblaid i ba bynnag llywodraeth sy'n cael ei ffurfio.
Beth fyddai canlyniad hynny? Mae'r ateb i'r cwestiwn yna yn dibynnu'n llwyr ar un person sef Trish Law, aelod annibynnol Blaenau Gwent.
O dan y fath amgylchiadau, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymatal, dw i'n cymryd y byddai Llafur yn enwebu Rhodri Morgan fel prif Weinidog Ddydd Mercher nesaf tra byddai Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn enwebu Ieuan Wyn Jones.
Mae'r fathemateg yn syml. Fe fyddai Ieuan yn ennill pe bai Trish yn ei gefnogi neu yn ymatal. Os oedd Rhodri yn gallu ei darbwyllo i'w gefnogi fe, fe fyddai'r niferoedd yn gyfartal ac fe fyddai'r dyfroedd cyfansoddiadol yn rhai dyfnion.
SylwadauAnfon sylw
what does the last w 2 lines mean my self and my welsh speaking coleagues cant fathom to what you are trying to say
sorry Vaughan
Vaughan, mae mwy o 'dwists a tyrns' yn y gem hwn na gem o griced...
Ond fel mae'n nhw'n dweud..'Never underestimate the power of a woman..'.
Bydd ei ffon hi yn dan golau..
Oh, Mr Roderick, rwyt ti wedi rhoi'r ateb heb fildio y tensiwn i fyny, a'r goleuau yn mynd lawr, a gofyn os odi'n ni'n mofyn defnyddio 'lyifflyin' trwy 'ffonio ffrind'..
'Come along, now' - efallai fydd drysau arall yn agor i ti ochr draw i fod yn Olygydd Materion Cymreig, neu fel Ms Powys, yn jyglo job 'Mastermind' gyda ei 'day job'...
Hmmm..Wn i beth oedd tad Mr Opik yn gwneud am fywoliaeth..?
Mae'r maths ma yn llawn diddordeb. Dan y scenario yma, bydd rhaid i bawb pwsho'r botwm cywir - a mae na 13 aelod newydd sydd byth wedi gwasgu unrhyw botwm yn y siambr newydd eto...
Falle bydde di nol ar News 24 eto yn delio a'r hen fotymau ma!
Mark, it means "If Rhodri can persuade her (Trish) to support him then the maths are equal and we are in constitutional deep waters"
Since it was written Trish has indicated that she intends to support the "rainbow"
Beth ddigwyddodd i dy gwis Vaughan ??? :)
Osna ohebiad yn unrhywle o Trish yn cefnogi'r enfys, dwi methu ffendio dim ar ddarbn newyddion y ³ÉÈË¿ìÊÖ