³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sylwer ar y gwahaniaeth

Vaughan Roderick | 09:30, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

Mae swyddfa Peter Hain newydd ryddhau'r datganiad canlynol.

Dismissing claims on ³ÉÈË¿ìÊÖ Wales that Labour would go into coalition with Plaid Cymru after the Assembly elections on May 3rd, Secretary of State for Wales Peter Hain said:

"This is a trumped up story from ³ÉÈË¿ìÊÖ Wales.

"As I've made clear in the past, Labour Party members simply wouldn't wear a coalition with Plaid Cymru.

"The fact is that Plaid Cymru and their media sympathisers are desperate to divert attention from the real story which is the backdoor deal Plaid Cymru have done to put the Tories back in charge of Welsh schools and hospitals."


Dyma beth gafodd ei ddarlledu ar Radio Cymru y bore ma.

Mae ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru wedi cael ar ddeall bod Llafur Cymru yn ystyried ceisio cyrraedd cytundeb a Phlaid Cymru os ydy hi'n methu sicrhau mwyafrif yn etholiadau'r cynulliad. Mae ffynonellau yn rhengoedd ucha'r Blaid wedi dweud wrth y ³ÉÈË¿ìÊÖ eu bod yn ystyried troi at Blaid Cymru am gefnogaeth yn hytrach nac at ei phartneriaid arfaethedig yn y Democratiaid Rhyddfrydol. Adroddiad gan ein Golygydd Materion Cymreig Vaughan Roderick.


Ar ôl treulio misoedd yn cyhuddo Plaid Cymru o gynllwynio i gefnogi clymblaid o dan arweinyddiaeth y Torïaid mae'n ymddangos bod Llafur nawr yn ystyried troi at y Blaid ei hun mewn ymdrech i barhau i lywodraethu. Yn ôl ffynonellau Llafur does 'na ddim posibilrwydd o glymblaid ffurfiol rhwng y ddwy blaid ond gallai rhyw fath o gytundeb rhwng y pleidiau fod ar yr agenda. Deallir fod Llafur wedi cael llond bol o'r hyn y maen nhw'n ystyried yn agwedd drahaus y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae Plaid Cymru yn mynnu ei bod yn fodlon trafod ac unrhyw un o'r pleidiau eraill ar ôl yr etholiadau a deallir taw consesiynau polisi sylweddol a nid seddi cabinet fyddai'r pris am gytundeb.

Ydych chi'n gweld y gwhaniaeth amlwg?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:50 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    A yw Peter Hain yn awgrymu fod ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru yn cydymdeimlo neu gefnogi Plaid Cymru? Mae hyn yn gyhuddiad mawr i'w wneud!

    Y peth dwl yw onibai am yr uchod, nid yw datganiad Peter Hain yn gwrthddweud stori'r ³ÉÈË¿ìÊÖ o gwbwl!

    Dim gobaith cael clywed pwy oedd y cyswllt yn y Blaid Lafur?

    Ac oes yna bôl piniwn yn mynd i gael ei gyhoeddi ar ran y ³ÉÈË¿ìÊÖ eleni?!?

  • 2. Am 12:03 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Gareth:

    "Y peth dwl yw onibai am yr uchod, nid yw datganiad Peter Hain yn gwrthddweud stori'r ³ÉÈË¿ìÊÖ o gwbwl!"

    Yn hollol - '' yw hi. Mae Hain yn gwrthod y syniad o glymblaid pan nad oedd hynna yn y stori wreiddiol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.