³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nadw Ron Ron Nadw Ron Ron

Vaughan Roderick | 12:52, Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2007

Dwi'n cymryd mai cellweiro oedd e.

Wrth sgyrsio â Ron Davies heddiw gofynnais iddo beth fyddai rol aelodau Annibynnol pe na bai yna fwyafrif yn y cynulliad nesaf.

Roedd hanner gwen ar ei wyneb wrth iddo ateb. "Wel" meddai "os oedd 'na sefyllfa lle roedd Plaid Cymru'n gwrthod gwasanaethu o dan Brif Weinidog Toriaidd, a'r Toriaid â mwy o aelodau na Phlaid Cymru, yr unig ddewis fyddai ceisio dod o hyd i rywun nad oedd yn perthyn i'r naill blaid na'r llall... rhywun profiadol, rhywun annibynnol i arwain y llywodraeth."

Rhywun fe Ron, efallai.

Dwi'n siwr mai cellweirio oedd e.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:26 ar 17 Ebrill 2007, ysgrifennodd Ifan Jones:

    Wel wir. Mae'n rhaid iddo enill ei sedd gyntaf!

  • 2. Am 18:29 ar 17 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    A wyt yn cofio y pypedau yno yna ceisio cael ni i ddefnyddio bbc.co.uk/wales -
    'Where's the badger'..

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.