Chanticleer
Un o'r blogs gwleidyddol Cymreig gorau yw . Ei awdur yw Huw Thomas, newyddiadurwr ifanc o Gwm Llynfi. Dwi ddim yn nabod Huw ond mae safon ei waith yn siarad dros ei hun. Nawr mae Huw yn ystyried lansio fersiwn Gymraeg. Dere 'mlaen Huw. Mae'r hen geiliog yna'n ysu canu yn Gymraeg!
Yn y cyfamser mae wedi bod yn ceisio darganfod pa flogs yw'r rhai mwyaf poblogaidd.
Mae Chanticleer a Blamerbell yn safleodd allanol. Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am eu cynnwys.
SylwadauAnfon sylw
Mae Ciaran Jenkins o BlamerbellBriefs hefyd wedi nodi y bydd yn cychwyn postio mwy o stwff yn Gymraeg.
Byddai gallu darllen cyfraniadau Huw a Ciaran trwy gyfrwng y Gymraeg yn wych!
Dyw blogs dwyieithog fel y cyfryw ddim fel arfer yn gweithio'n dda. Y syniad gore yw dechrau ail flog cyfochrog trwy gyfrwng y Gymraeg gyda dolenni cyson rhwng y 2 fel mae'r "Hen Rech Flin" yn ei wneud:
Cofiwch hefyd i gofrestru unrhyw flogiau Cymraeg gyda'r trwy ebostio aran[at]sgwarnog.com
Yn anffodus, dwi ddim hanner mor farddonol yn gymraeg nac ydw i yn saesneg.
Liciwn i ddechrau blog Cymraeg ond dyw'r amser neu'r egni ddim 'da fi ar hyn o bryd.
Ond mi wna i flogio'n gymraeg o leiaf unwaith yr wythnos o hyn ymlaen. Cyfle i ymarfer o leiaf...