Ac mae'r llencyn yn y jel...
O safle'r BNP;
Out of a Welsh-speaking population of little more than one million, a staggering 6,000 people went to prison during the campaign, launched by Saunders Lewis in 1968, to secure official status for the Welsh language. Many of those now ageing veterans of a long campaign of civil disobedience and non-violent direct action, and their families, are now watching in impotent horror as the neo-Marxist polytechnic lecturers and town hall parasites who have hijacked Plaid Cymru make a play for the Polish vote- despite the devastating effect of Polish immigration and cheap labour on poor Welsh families and communities.
Byddwch arwrol! Anghofiwch eich "impotent horror". Safwch yn erbyn y "neo-Marxist polytechnic lecturers" yna!
Sefwch yn y bwlch. Oes modd dweud unrhywbeth?
SylwadauAnfon sylw
Roeddwn yn synnu ac wedi siomi'n ddirfawr gweld darpar ymgeisydd ar ran y BNP yn cael ei chyfweld ar Newyddion S4C yr wythnos diwethaf. Vaughan - Beth yw polisi 'r ³ÉÈË¿ìÊÖ o ran rhoi platfform/llais i'r bobl hyn?
Cheap labour? Duh! Mae'r Pwyliaid, fel dinesyddion yr UE, yn cael yr un cyflog minimwm a phawb arall.
Hollol, hollol anhygoel! Dwi'n gegrwth! Ti'n iawn, does dim modd dweud dim byd!! 8-O
Ond Vaughan, mae pobl yn digon twp i gredu nhw. Does dim ond hala peth amser yn darllen ei gwefan nhw i ddeal fod 'twin-track approach' ar waith fan hyn.
Mae llawer o beth mae'n nhw'n dweud i'r wasg dyddiau 'ma ddim yn rhy wahanol I beth mae pobl fel Richard Littlejohn yn dweud yn y Daily Mail. Ond gan balu yn ddwfnach mae'n bosib ffeindio y polisiau 'racist' sy'n cael ei cuddio.
Un esiampl - mae'n nhw'n dweud, pan caent ei sialensio am fod yn 'racist' [hiliol?] y bydden nhw yn dod lawr fel tunell o 'frics' ar pobl gwyn sy'n torri'r gyfraith. Heb ateb y cwestiwn a ydy'n nhw'n hiliol.
Ond mae'n bosib i ffeindio nhw'n gofyn am bob moslem gael ei stopio o hedfan ar awyren, a llawer gwaith.
Roedd Iain Dale yn dweud ni ddylai ni gormod o sylw i'r BNP. Rwy'n gallu gweld fod 'no such thing as bad publicity'. Ond ddylai ni ddim anwybyddu y perygl chwaith.
Mae 'banio' nhw yn ffordd anghywir o ddelio a nhw - mae rhaid sgwaru lan i'r bygythiad yma.
Bobi,
Mae'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn dilyn canllawiau manwl adeg etholiad. Yn yr etholiad hwn rydym yn ceisio sicrhai cydraddoldeb sylw rhwng y pedair prif plaid ac yn gwarantu isafswm sylw i unrhyw blaid sydd yn sefyll ym mhob rhnabarth etholiadol. Yr un yw'r trothwy ar gyfer cael darllediad gwelidyddol. Wrth reswm, dyw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ddim yn darlledu deunydd sydd yn hiliol nac yn anghyfreithlon. Yn ogystal a chanllawiau'r ³ÉÈË¿ìÊÖ rydym hefyd fel unigolion yn dilyn canllawiau ein hundeb, yr NUJ.
Sefyllfa anodd i sawl person mae'n siwr? Gyrrodd darllediadau gwleidyddol(Cymareg a Saesneg) y BNP neithiwr ias annifyr i lawr fy asgwrn cefn. Ac oni chlywais fod protest wedi ei threfnu y tu allan i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn rhywle i wrthwynebu darlledu rhain? Gyda chefnogaeth yr NUJ a BECTU??
Roedd na rhiw gant o bobol yn protestio y tu allan i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ rhwng chwech a saith neithiwr. Yn ol "Media Guardian" roedd na dorriadau i ddarllediad y BNP ar gais y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Does gen i ddim gwybodaeth personnol am hynny.