Hunlle Eisteddfodol
Neithiwr ar ôl bod yn gwylio cyfuniad o gystadleuthau eisteddfodol ar raglen y ³ÉÈË¿ìÊÖ, O'r Maes, a'r Mabolgampau, O'r Stadium. Yn y freuddwyd 'roeddwn i yn y Stadium Olympaidd yn eistedd wrth ochor y bardd T. Rowland Hughes (oedd hefyd ar un adeg yn gynhyrchydd radio). Roedd y stadium yn wag. Dim ond y fo, mewn trac siwt binc, a fi, a'r cystadleuwyr oedd ynno.
'Be 'da chi'n 'neud yn famma?' medda fi
'O' medda fo 'Wedi dwad yma am dipyn o ysbrydoliaeth. Wedi meddwl sgwennu cerdd am ras rhwng Sammy Rhos Banc, a Ned Ty Glas.'
'Da chi'n cael hwyl, arni hi?'
'Wel' medda fo, mae'r linell gynta yn 'i lle 'Dau yn unig oedd yn y ras'
Ar hynny dyma swn fanffer yn llenw'r lle. A gwr ifanc yn camu ar y podium ac yn cael ei arwisgo efo'r fedal aur, neb llai na Dai Green.
'Mr Hughes' medda fi, gan droi at Rowland oedd yn dal i 'sgwennu, 'Sut ma'r Cymro wedi cal medal aur am redeg y ras pedwar can medr dros y clwydi?'
'Wel' meddai Rowland 'mae'n amlwg tydi DAI YN UNIG OEDD YN Y RAS'