Taith Arth-Dderchog!

Pudsey - Arth-dderchog!
Pan gerddais i fewn i Ysgol Crug Glas Abertawe, fore Iau, 'doeddwn i ddim yn disgwyl gweld Robert Plant o Led Zepllin yn sefyll yno mewn par o shorts a fflip fflops!
Ond, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, mae John Thomas yn ymgorfforiad o'i arwr, a dwi'n siwr fod disgyblion yr ysgol, sy'n cynnig addysg i blant ag anghenion arbennig, yn credu fod John yn 'cool'.

Ysgol Crug Glas
Deng mlynedd ar hugain yn ôl fe sefydlodd John gynllun Interplay, sy'n intigreiddio plant ag anableddau o fewn i gynlluniau chwarae, ac unwaith eto eleni mae'r elusen wedi derbyn arian o Gronfa'r Plant mewn angen i barhau efo'r gwaith gwych mae nhw'n ei wneud.
Yn ystod yr wythnos, fe fues i'n teithio o Fon, i Gaerdydd, heibio Stiniog, Corris , ac Aberystwyth, Llandysul, Llanybydder, ac Abertawe i gyfarfod y gweithwyr ymroddgar hynny, sy'n gweithio yn y dirgel i wella ansawdd bywyd, oedolion a phlant, sydd mewn angen.

A heddiw, ar ddiwrnod y Plant Mewn Angen fe fydd Cymru unwaith eto, ar waetha'r wasgfa economaidd , yn cyfrannu'n hael i'r Gronfa.
A chofiwch fod rhosyn y Rhos, Stifyn Parri, yn cynnal ocsiwn drwy'r dydd ar Radio Cymru, ocsiwn fydd yn dod i ben ar raglen Geraint Lloyd y prynhawn 'ma.
Bydd, fe fydd heddiw yn ddiwrnod ARTH-BENIG!