I Fôn Dirion Dir !
Ffermwr a bardd o Eifionydd, David Owen, sgwenodd yr englyn enwog i'r 'uchelgaer uwch y weilgi', sef pont grog Telford, ar ol iddi agor yn swyddogol
ym 1826. Bryd hynny fe fyddai Dewi Wyn o Eifion, wedi talu toll i groesi o'r tir mawr, ond dwi'n siwr na fyddai wedi gwarafun talu rhyw geiniog neu ddwy- er mwyn cyrraedd paradwys!!

Ìý
Fe groesais i'r bont a chyrraedd Bae Trearddur fel roeddd yr haul ym machlud yn ei holl ogoniant tanbaid.

Ìý
Y bore canlynol, roeddwn i'n cyfarfod Llew William , mewn mynwent hynafol yn Llanrhwydrus, heb fod ymhell iawn o Amlwch. Mae'r eglwys yn dyddio
nôl i'r ddeuddegfed ganrif, ond yn y fynwent roedd ein diddordeb ni.

Ìý
Yn y dyfodol agos fe fyddwn ni'n rhoi sylw i feddau a mynwentydd diddorol Cymru ar raglen Nia, ac os gwyddoch chi am fedd neu fynwent yn eich ardal chi, sy'n anghyffredin am ryw reswm - gadewch i mi wybod hywel@bbc.co.uk.
A beth am y bedd yn y fynwent ym Mon. Wel mi dduda i gymaint a hyn, bedd Tomos Owens ydi o. Beth sy'n arbennig am y bedd a'i berchenog? Wel, mi gewch chi'r ateb ar raglen Nia cyn bo hir.