Carnifal o liw mewn dau le
Llangollen a Llangefni - dyna'r ddau le oedd yn llawn o liw a chyffro yr wythnos dwutha. Am un wythnos bob blwyddyn mae Llangollen fel petae yn deffro o'i thrwmgwsg ac yn gwahodd gwledydd y byd i lwyfan y pafiliwn rhyngwladol.

Ar waetha'r tywydd anwadal fe gafwyd wythnos arall i'w chofio, ac fe groesawyd, corau o Ynysyoedd y Philipiniad, unawdwyr o Awstralia, cantorion o Luisianna a dawnswyr o'r India. Wel, dawnswyr o dras Indiaidd, o leia. Oherwydd pan welais i griw o fechgyn ifanc golygus yn eu gwisgoedd glas, a phob un yn gwisgo turban melyn ac yn chwarae offeryn Indiaidd yr olwg, yn naturiol fe ofynnais i iddyn nhw y cwestiwn amlwg, mewn un gair 'India' ? 'No' oedd yr ateb 'Dudley'. O Langollen i Langefni lle roedd y carnifal yn cael ei gynnal eleni am y tro cyntaf ers deunaw mlynedd.

Nicci a'i ffrindiau sydd wedi atgyfodi'r digwyddiad, ac efallai eich bod chi wedi bod yn dilyn eu hanes nhw ar S4C. Mae'r bennod olaf, sef diwrnod y carnifal, i'w gweld nos Sul nesa' am hanner awr wedi wyth. Ar ol deud rhyw gair bach i agor y carnifal yn swyddogol, fe ges i dipyn o syrpreis, a hwnnw mewn bocs mawr gwyn. 'Roedd y gennod wedi trefnu fy mod i'n cael teisen penblwydd siap set radio i ddathlu'r diwrnod ar y trydydd ar ddeg o Orffenaf.

Felly os 'da chi am anfon rhyw anrheg bach ata i.......
Fe fu na gyfle i mi hel atgofion efo nifer o wynebau o mhlentyndod, a phpb sgwrs yn dechrau efo'r un cwestiwn "Ew 'ti'n cofio ni'n gwisgo i fynny fel cowbois ac Indians ar gyfer carnifal Llangefni flynyddoedd yn ol?"
Llongyfarchiadau i Nicci a'r gennod a diolch yn fawr ar ran y ddwy fil a ddaeth i'r carnifal, am ddiwrnod i'w gofio yn yr haul.