³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dim gwaeth ar ol taith y saith traeth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:50, Dydd Iau, 16 Mehefin 2011

Ymweld a saith o draethau led led Cymru- dyna oedd yr her, er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r ffaith y bydd Radio Cymru yn teithio dipyn go lew yn ystod yr ha' 'ma. Stalwm, pan oeddwn i'n mynd i'r traeth am y diwrnod efo mam a nhad fe fyddem yn mynd a camera Box Brownie efo ni, er mwyn tynnu lluniau ohona i yn codi castell tywod neu'n llamu megis llamhidydd gosgeiddig drwy'r tonnau. 'Doedd y box Brownie ddim ar gael ar gyfer Taith y Traethau ond dyma ymgais i gofnodi'r diwrnod yn ddigidol. Gyda llaw does na ddim llun ohona i yn llamu megis llamhidydd gosgeiddig drwy'r tonnau. Maen ddrwg gen i eich siomi!

 Rhyl. Llun o Hywel a Gareth Owen yn eistedd efo'r traeth tu ol.

Rhyl. Llun o Hywel a Gareth Owen yn eistedd efo'r traeth tu ol.

Gareth Owen, bos Pafilwin y Rhyl, a finna' ar y draeth y Rhyl yn gynnar yn y bore yn siarad ar raglen Dafydd a Caryl.

Bae Colwyn. Hywel A David Rogers Jones.

Bae Colwyn. Hywel a David Rogers Jones.

Lawr yr arfordir i Fael Colwyn i gyfarfod David Rodgers Jones, dyn antîcs a chyfranwr cyson i Radio Cymru dros y blynyddoedd, yn ceisio fy mherswadio, ar raglen Nia, mae hwn ydi'r traeth gorau yng Ngogledd Cymru.

Hywel efo criw yn y Benllech.

Hywel efo criw yn y Benllech.

Dyma'r traeth gorau yng Ngogledd Cymru, David Rodgers Jones, traeth y Benllech,Sir Fon, lle roeddwn i'n mynd yn hogyn ar gefn fy meic, o Langefni, efo siwt nofio wedi ei gweu gan fy Nain mewn bag bach, ar y cefn.


Gerallt Pennant a Rob Piercy.

Gerallt Pennant a Rob Piercy.

O Sir Fon i Borthmadog i gyfarfod y gwr sy'n rhoi 'Galwad Gynnar' i'r genedl bob bore Sadwrn ar Radio Cymru-Gerallt Pennant, a'i fêt yr arlunydd Rob Piercy.

'Dwi'n cofio cael sgwrs efo Richard Evans, coxswain enwog, bad achub y Moelfre a fyntau'n dweud wrtha i 'Cofiwch, os ydi hi'n dywydd mawr, mae'n rhaid i ni fynd allan, ond 'does dim rhaid i ni ddwad yn ol.' 'Does na neb yn gwybod hynny yn well na Carwyn Williams, aelod o griw bad achub Aberystwyth, ac yn ei gwmni i o, y bues i'n crwydro traeth y dre.


Cei Newydd ...Eurfyl Evans<br />

Cei Newydd ...Eurfyl Evans

Yng Ngei Newydd roedd y chweched traeth. A 'does na ddim amheuaeth medda fo mai y pentref yma, ac nid Talacharn, yw y pentre yn nrama radio Dylan Thomas-Under Milk Wood. Yn wir fe fu Mathew Rhys a Sienna Miller yn crwydro traeth y Cei rhyw ddwy flynedd yn ol pan oedden nhw'n ffilmio Edge of Reason- ffilm am y Dylan Thomas ifanc.

Aberaeron Hugh Thomas.

Aberaeron Hugh Thomas.

Aberaeron oedd diwedd y daith a chaeau'r clwb rygbi, sydd o fewn cyrraedd y traeth a'r mor. Fe fues i'n sgwrsio Hugh Thomas, yn o sylfaenwyr y clwb, roddodd ei gyfle cynta i
Dafydd Jones, cyn iddo ymuno a'r Scarlets ac enill cap i Gymru.

A dyna nhw, y saith. Ond fe fyddwn ni'n ymweld a thraethau eraill hefyd cyn diwedd yr haf. Sadwrn nesa fe fydda i yng ngwyl Nol a Mlan ar draeth, Llangrannog ac yn darlledu'n fyw ar raglenni Tudur Owen a Gaynor Davies.

Cofiwch gysylltu efo mi drwy ebost hywel@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈË¿ìÊÖ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.