O bentre bach Llangwm i ddinas fawr Caerdydd
O bentre bach Llangwm i ddinas fawr Caerdydd, gan alw heibio'r Felinheli, Aberystwyth, Dyffryn Aman ar y ffordd. Dyna'r llwybr cerddorol y bues i'n ei deithio'r wythnos d'waetha, gan ymweld â chorau meibion Llangwm, Cyntaf i'r Felin, Côr ger y Lli, Lleisiau'r Cwm a Meibion Taf.
Mae'r albwm yn llawn lluniau a dyma i chi rai ohonyn nhw.

Rhys Pugh Evans, aelod o gôr Ger y Lli, a thîm Bad Achub y Borth. Mae wrth ei fodd yn canu 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau'

Aelod arall o gôr Ger y Lli ydi Gwion James, ac fel y gwelwch chi mae o dros ei ben a'i glustiau mewn cariad efo canu corawl.

Siwan Llynor, sy'n canu efo Côr Ger y Lli efo'i mab pum mis oed Bedwyr yn eu cartre' ger Porthaethwy. Ail denor ydi Bedwyr ac wrth ei fodd yn canu - am ddau o'r gloch y bore.

Arweinydd dewr Meibion Llangwm, Bethan Smallwood, yn dangos i'r hogiau sut i wneud siâp pen hwyaden efo'ch bysedd.

Seren yr wythnos heb os oedd Oliver, un o aelodau meibion Llangwm. Yn ei ddydd fe fu'n bobydd, yn ddyn tân ac yn focsar. Pwy'n well i gadw'r côr mewn trefn? Pen-blwydd hapus i chi Oliver yn wythdeg oed ar Fai 14eg diwrnod. Ffair y Bala.
Mae 'na thipyn o deithio o fy 'mlaen i yn ystod yr wythnosau nesa'. Eisteddfod Yr Urdd, Eisteddfod Llangollen, ac Eisteddfod Wrecsam, heb son am ymweld â'r sioe Frenhinol fawr yn Llanelwedd, a sioeau bach y wlad. Efallai bod yr ardal acw yn cynnal sioe am y tro cynta', ac os ydach chi, gadewch i mi wybod . Anfonwch neges destun at hywel@bbc.co.uk
Bedwyr yn drist a distaw
Annwyl Bedwyr, Gair bach yn dy glust. Efallai i ti weld llun ohonot ar y blog ddechrau'r wythnos- llun ohonot ti, dy fam Siwan Llynor a finnau.
Yn anffodus fe wnes i gamgymeriad gan ddweud fod dy fam yn canu efo Côr Ger y Lli, yn lle Côr Cyntaf i'r Felin, Felinheli.
Ymddiheuriadau, a dyma lun arall - i gadw'r teulu, yn enwedig dy fam a dy dad Dylan, yn hapus.
