³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2011

Gyrru Drwy'r Dyffryn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:56, Dydd Gwener, 4 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

'Mae'r afon Tanat yn llifo o odre mynyddoedd y Berwyn, gyda'i tharddiad yng Nghwm Pennant a Chwm Rhiwarth, dau gwm rhewlifol, cyn uno yn Llangynog. Mae hi'n croesi'r ffin ym Mhenybontfawr cyn dychwelyd i Gymru a gorffen ei thaith wrth ymuno ag afon Efyrnwy ger Llansantffraid.'

Geiriau agoriadol teithlyfr Dyffryn Tanat sydd newydd gael ei gyhoeddi, ac yn ddiweddar fe fues i'n crwydro Dyffryn Tanat yng nghwmni Penri Roberts - neu Penri Roberts, Theatr Maldwyn fel mae pawb yn ei adnabod. Fe aeth a mi i dri lle yn benodol.

Eglwys Pennant Melangell, Llanrhaeadr ym Mochnant a Sycharth, ac fe gewch chi'r hanes ar raglenni Nia yn ystod y mis yma.

Penri Roberts

Ydi mai'r crwydro wedi cychwyn o ddifri, oherwydd yr wythnos nesa fy fyddai'n troi trwyn y car i gyfeiriad Bethesda a Phorthmadog, lle byddai'n cyfarfod tîm hoci merched, llond stafell o 'cheer leaders', ac fe fyddai'n cael hanes sut y bydd Porthmadog yn dathlu dau gan mlwyddiant codi'r cob eleni.

Os oes 'na straeon diddorol yn eich ardal chi fe fyddwn i'n falch iawn petai chi'n cysylltu efo mi drwy ebost hywel@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈË¿ìÊÖ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.