Taith Nadolig
Fe ysgrifenwyd y penillion hyn gydag ysbrydoliaeth y Bardd Cocos o Borthaethwy
Diolch i Ysgol OM yn Llanuwchllyn
Am eu croeso ar ddechrau y teithio i Gwynfryn
A llongyfarchiadau hefyd i'r ysgol
Am lwyddo i sgwennu carol fuddugol

Criw o ddisgyblion Ysgol Syr OM Edwards Llanuwchllyn - nhw a enillodd cystadleuaeth Carol Nadolig rhaglen 'Wedi 7' ar S4C eleni
Ar ôl gweld coed 'Dolig ar fferm yn Llangollen
Fe alwais yn Ninbych a chartre' clyd Dolwen.
Erbyn bore dydd Mawrth wedi croesi i Fôn
Am hamperi Dothan y buom yn sôn.

Criw Hamperi Môn - Lois ac Elliw Jones
A rheini yn llawn o bob math o ddanteithion
Caws, chytnis a phicl a jam cyrants duon.
Cyn gadael yr Ynys, o Dothan fe es i
I Ysgol y Graig ar gyrion Llangefni.

Siôn Corn yn y Ceudyllau, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog
Roedd Siôn Corn yn aros i'm gweld yn y Blaena'
Mewn ogof fawr liwgar yn llawn o bresanta'
I grombil y ddaear yr es ar y trên
Ac yn wir cefais anrheg. Mae o'n hynod o glên.

Rhai o ddisgyblion Ysgol Cefn Coch Penrhyndeudraeth ar ôl derbyn eu hanrhegion gan Siôn Corn
Heibio'r Cross Foxes, heb yrru'n wyrion
Drwy Fachynlleth i bentref bach tlws Aberaeron
Fe alwyd yn Llambed er mwyn torri gair
Efo'r doethion a Joseff, dau fugail a Mair.

Alan Fewster yn paratoi côr ar gyfer perfformiad o'r Meseia

Taith aeafol nôl i Gaerdydd
Ac felly yn ôl i Gaerdydd 'raeth y criw
A finna' i'w canlyn. Ond os byddwn ni byw
A'r eira'n diflannu bydd y teithio'n parhau,
Ar ôl y Nadolig ar hyd ffyrdd yr hoff bau.

Golygfa hudolus yng nghanol yr eira