³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cynan a fi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:26, Dydd Gwener, 6 Awst 2010

1957 oedd hi. Bu farw Humphrey Bogart, Toscanini, Sibelius a Gigli. Penodwyd Harol Macmillan yn brif weinidog. Anfonodd Rwsia y roced gyntaf i'r gofod, ac yn ddiweddarach, ar ôl y Sputnik, fe aeth y ci bach, Leika, i fynny i weld sut le oedd ynno. Daeth y 'beatniks' i'r amlwg efo'i geirfa newydd-'dig', 'hip' a 'groovy', ac roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni, lle 'roedd yr actor Hugh Griffith yn edrych yn weddol 'groovy' yn ei wisg wen orseddol newydd. Gyda llaw 'does 'na ddim gwirionedd yn y stori ei fod o wedi gwisgo'r wisg wen ar gyfer ei ran fel y Sheik yn y ffilm enwog 'Ben Hur' ddwy flynedd yn ddiweddarach.

1958_cynananeurinpaul.jpg

Fe ddaeth atgofion yn ôl i mi o'r eisteddfod honno, yn fy nhref enedigol, yn 1957, ar ôl gweld llun o Cynan yng nghwmni Paul Robeson, yn eisteddfod Glyn Ebwy ym 1958. Comisiynwyd Cynan i ysgrifennu drama ar gyfer y Genedlaethol yn Llangefni , ac fe gefais i ran yn y ddrama honno-Absalom fy mab, yn rhanol, mae'n bur debyg, oherwydd fy mod i ar y pryd, yn actio dipyn ar y radio i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ, o Neuadd y Penrhyn, Bangor.

Yn y ddrama, fi oedd Meffiboseth, y bachgen cloff. Ond gan nad oeddwn yn gallu cofio fy llinellau, ac oherwydd nerfusrwydd, yn baglu dros fy ngeiriau, fe ail fedyddiwyd Meffiboseth yn Mess o bobpeth! Yn ychwanegol at y broblem o gofio fy ngeiriau, fe gododd problem arall yn gysylltiedig ar ffaith fy mod i'n gloff, yn y ddrama. Yn anffodus roedd y cloffder hwnnw, yn symud o'r naill goes i'r llall gan ddibynnu ar gyfeiriad fy ngherddediad, ac o dan pa fraich yr oedd y ffon fagl ar y pryd. Wrth groesi'r llwyfan o'r dde i'r chwith, y goes dde oedd y broblem. Yna, yn wyrthiol (neu efallai y dylwn ddweud 'yn amaturaidd') byddai'r goes dde yn gwella, ar goes chwith yn mynd yn ddiffrwyth.

Prin iawn fu'r amser ymarfer. Ni chyrhaeddodd ein dillad o storfa yn Birmingham mewn pryd ac felly 'roedd yn rhaid dibynnu ar unrhyw ddilledyn Beiblaidd yr olwg (pyjamas, sandalau, llian golchi llestri, gwisg laes) oedd yn digwydd bod o gwmpas y tÅ·, ac heb os roedd y drychineb thetarig yma yn dwyn i gof ffawd y Titanic.

Ar y noson agoriadol, yn Neuadd y Dref Llangefni, 'roedd Cynan yn eistedd yn y sedd flaen, yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld perfformiad cofiadwy o'i ddrama fawr. Ac heb os, fe fyddai'n cofio'r perfformiad am flynyddoedd i ddod, ond nid am y rhesymau cywir, 'roedd y duwiau yn ein herbyn. Boddodd y storm o fellt a tharanau a glaw dibaid, leisiau'r actorion. Aeth y golau allan ar ddiwedd yr act gynta, ac aeth Cynan allan ar ddiwedd yr ail,"ac a wylodd yn chwerw dost" mae'n bur debyg i mewn i wisgi mawr yn y Bull Hotel.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈË¿ìÊÖ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.