Moch Llanrug
Mae 'na fwy a mwy o Gymry yn mentro i fyd busnes. Ond mae mentro yn golygu buddsoddiad ariannol a gwaith caled cyn i'r freuddwyd o redeg busnes llwyddiannus gael ei gwireddu, ac mae Jack Bee a'i wraig Sonia yn barod am y dasg.
Ar ôl gweithio drwy'r nos ar y rheilffordd tan ryw bedwar o'r gloch y bore, a chael rhyw ychydig oriau o gwsg, mae Jack yn cychwyn ar waith y dydd. Efo'i wraig Sonia, mae o wedi sefydlu busnes cadw moch a gwerthu'r cynnyrch sef y cig a'r selsig.
Mae o'n awyddus i hyrwyddo'r hen fridiau fel y brid Cymreig a'r Saddleback, ac mae 'na gynlluniau hefyd i ymweld â sioeau amaethyddol a gwyliau yn y Gogledd yn cynnig brechdanau cig moch wedi ei rostio.
Pan alwais i draw yn y fferm yn Llanrug, fe ges i groeso cynnes gan yr hen hwch Gymreig a'i pherchyll. Am fy mod i'n fochyn o Fôn, mae'n siŵr!
Gewch chi glywed y sgwrs ges i gyda Jack a Sonia'n ar raglen Nia Roberts ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru rhwng 1030 a 12pm fore Llun Gorffennaf 5ed.