Roedd y croeso yn y Caffi Cynnes ym Mhontyberem, y Farchnad Fach gydag Andrew Hughes a'r Clwb Bingo yn y Tymbl yn gynnes iawn ddechrau'r wythnos i ddau o ser Pobol y Cwm - Kevin Powell ac Anita Pierce, ei lys fam. Fe fu nifer o'r ser yn ymweld a Chwm Gwendraeth yn ystod yr wythnos, gan mai'r cwm ydi cartref ysbrydol y gyfres. Mae Anita gyda llaw wedi prynu het newydd sbon, ddrud, ar gyfer y briodas sydd ar y gorwel. Sut briodas fydd hi? Fydd na rhywbeth yn mynd o'i le ar y diwrnod mawr? Yn wir, fydd 'na briodas o gwbwl? Wel, fe all unrhywbeth ddigwydd mewn opera sebon. Gawn ni weld.
Fe fydda i'n gyrru'r fan i gyfeiriad Cwm Gwendraeth fore Mawrth i gyfarfod Kevin ac Anita, dau o bobol Cwm Deri, fydd yn galw heibio'r Farchnad Fach yn y Tymbl am fargen. Ac yna fore Mercher, fe fyddai draw ym Mhontyberem yn y Caffi Cynnes, i gyfarfod Meic Pierce cyn berchennog caffi Cwm Deri.
Mae'r ymweliad gan actorion Pobol y Cwm yn rhan o wythnos o weithgareddau cyffrous yng Nghwm Gwendraeth.
Gwefan Pobol Y Cwm
Crempog, poncage,pancos, ffrois. Be' da chi'n eu galw nhw? A be' 'di'r ots oherwydd 'does na ddim byd i'w gymharu a chrempog yn syth o'r badell ffrio yn llawn sudd lemwn a siwgwr ar ddydd Mawrth Crempog, neu unrhyw ddydd Mawrth a deud y gwir.
Ddydd Mawrth dwetha yng nghartre Anthony Evans - wyneb cyfarwydd Stwffio S4C, ac un o leisiau tim y rhaglen fwyd Blas ar Radio Cymru yr o'n i ac fe fues i'n stwffio gymaint o grempogau a fedrwn i, i fy nheg, tra'n sgwrsio efo Anthony, ar raglen Nia.
A phob hwyl i Lynette, chwaer Anthony. Mae hi a'r teulu yn mynd allan am ddwy flynedd i Brunei.
Ddechrau'r wythnos fe aeth Win a Richard Morgan sy'n cadw Swyddfa Bost yn Llangadog, i Dy'r Arglwyddi yn Llundain. Y llynedd nhw enillodd yr anrhydedd o fod y Swyddfa Bost orau yng Nghymru, ac felly eleni eu tro nhw oedd cyflwyno yr anrhydedd i enillydd o Loegr. Fe fyddai pawb yn Llangadog yn ddigon hapus petai nhw wedi dychwelyd yn Lord a Lady Cadog, ond 'does na ddim byd yn hunan-bwysig am Win a Richard. Ond mae'r gwaith mae nhw'n ei wneud, yn cynnal y Post a'r siop, sydd bellach yn ganolfan y pentref, yn bwysig iawn.
Y Theatr Fach ydi enw'r theatr yn Llangefni, lle ces i gyfle i or-actio fwy nag unwaith pan oeddwn i'n byw yn y dre yn y pumdegau. Tan yn ddiweddar hi oedd y theatr leia i mi fod ynddi, gyda seddau i rhyw gant o bobol. Ond y noson o'r blaen 'roeddwn i mewn theatr lai o lawer na honno yn nhy Hywel Jeffreys, ar lan llyn y Rhath, yng Nghaerdydd.
Ar ol ymddeol fe gododd Hywel theatr fechan yng ngardd Llys Tregarth, er mwyn
cynnal nosweithiau diwylliannol a'r artistiaid eleni oedd Aled Hall, Joy Cornock, a Chor Meibion Taf. Yn ogystal a'r theatr, mae Hywel wedi creu stiwdio i fyny'r grisiau lle mae'n gallu rheoli pedwar o gamerau, golygu'r cynnwys, a recordio'r cyfan ar gyfer DVD, er mwyn i'r gynulleidfa gael ail fwynhau y noson, ac mae'r nosweithiau yn y theatr wedi sicrhau fod na filoedd o bunnau wedi llifo i goffrau sawl elusen yng Nghymru - diolch i Gynhyrchiadau Jeffreys.
"Ewadd tydach chi'n lwcus." Teithio o gwmpas Cymru, cyfarfod pobol. A chael eich talu." Ydw, mi ydwi'n lwcus, yn enwedig gan fy mod i'n cael mynd i'r mannau hynny yng Nghymru na f'asa rhywun ddim yn ymweld a nhw fel arfer. Dyna i chi Ffostrasol er enghraifft. Pentre ydi Ffostraol yn Ne Ceredigion, rhwng Synod Inn a Llandysul. Ac i'r pentre yma, yn bedair oed y daeth Gino Vasami, ar ddiwedd y rhyfel. 'Roedd ei Dad wedi bod yn garcharor rhyfel yn Henllan, ac fe benderfynodd y byddai'n ymgartrefu yn yr ardal.
Bellach mae Gino, a'i fab Tony wedi sefydly tÅ· bwyta yn Ffostrasol, sydd wedi ei enwi ar ol y rhan honno o'r Eidal lle mae gwreiddiau'r teulu - Calabria. Os mae coes o dir ydi'r Eidal, yna Calabria ydi'r droed, a'r hyn sy'n nodweddu bwyd y rhan honno ydi porc, gyda pob darn o'r mochyn yn cael ei ddefnyddio i wneud selsig , neu sawsiau blasus, neu i'w rostio dros dan agored. Fe gewch chi fwy o hanes Tony a Gino a'r teulu ar raglen Nia bore dydd Llun rhwng 10.30 a 12.00