³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dim dianc

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:44, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

bbceira1.jpg

Ni chysgaf, nid af o dy
Ym mhoen ydd wyf am hynny

Dafydd ap Gwilym sy'n cwyno, yn ei gywydd i'r Eira. Mae'n amlwg ei fod o wedi cael llond bol. Dim gobaith gweld Morfudd gan fod ei four-by-four o dan afalansh o eira gwyn. Mi wn i'n iawn sut yr oedd o'n teimlo. Mae'r fan a finna' wedi methu mynd i nunlla. Ddoe 'roeddwn i wedi meddwl mynd i Aberteifi i gael sgwrs efo gwr sydd wedi adeiladu tair awyren a dwy gadair eisteddfodol. Heno, yn nhafarn Bessie yn Nghwm Gwaun, mae nhw'n dathlu'r Hen Galan, ac mi oeddwn i wedi trefnu i fod yno er mwyn codi gwydryn o'r Macsi cwrw, a dymuno'n dda i Geraint Lloyd ar ei raglen. Ond fydda i ddim yno, nac yn ysgol Plasmawr heno chwaith, lle mae nhw'n cynnal gwersi dawnsio Salsa, am y deng wythnos nesa, yng nghwmni Mari Wyn. A dyma fi, yn garcharor yng Nghaerdydd, heb fedru mynd o'r fan, yn y fan. Felly, er mwyn diddori fy hun, 'dwi wedi bod yn chwilio am ychydig eiria am yr eira.

hyweleira1.1.jpg

1. "Pam fod eira yn wyn" oedd cwestiwn mawr Dafydd Iwan. Wel, yr ateb ydi - tydio ddim yn wyn bob tro. Flynyddoedd yn ol, pan oedd cannoedd o dunelli o lo yn cael eu llosgi mewn ffatrioedd a thai, ac roedd llwch y glo yn codi i'r atmosffer, ac yn treiddio i mewn i'r cymylau, roedd unrhyw eira oedd yn disgyn yn llwyd. Ac ar ynys Prince Edward yng Nghanada, yn amal iawn mae 'na wawl binc i'r eira, gan fod pridd yr ynys yn goch ei liw.

2. Os yda chi'n dychryn wrth weld yr eira'n disgyn, yna 'da chi'n dioddef o Chionophobia.

3. Be' 'di'r cysylltiad rhwng y tywydd a rhywun gafodd ei gweld gan 16 miliwn o bobol ar Coronation Street, pan ganodd hi ei thelyn ym mhriodas Steve a Karen MacDonald. Enw'r delynores oedd Eira Lyn Jones.

4. Yn ol astudiaeth a wnaed ddwy flynedd yn ol, fe allai'r Wyddfa fod heb eira erbyn 2020. Mae'r gwaith ymchwil yn dangos bod lefelau eira wedi gostwng tua 35% dros y 10 mlynedd diwethaf.

5. Mae 'na chwech ochor i bob pluen eira ond mae patrwm pob un yn wahanol.

6. Fe ddisgynodd y bluen eira fwyaf erioed i'r ddaear yn Fort Keogh, Montana. 'Roedd hi'n mesur pymtheg modfedd ar draws ac yn 8 modfedd o drwch.

7. Mae pluen eira gyffredin yn disgyn i'r ddaear fel arfer ar gyflymdra o 5 cilometr yr awr.

8. Fe orchuddir 12% o arwynebedd y ddaear yn barhaol gan eira a rhew.

9. Prifddinas eira yr Unol Daleithau ydi Bwlch Stampede yn nhalaith Washington.
Bob blwyddyn mae 430 modfedd o eira yn disgyn yn yr ardal.

10. Ewch ati, cyn i'r eira ddiflannu, i adeiladu dyn eira. Ac os 'da chi am dorri record y byd am y dyn eira mwyaf erioed, yna mae'n rhaid i chi adeiladu un sy'n 122 o droedfeddi a 2 fodfedd o daldra, oherwydd record y byd ydi 122 o droedfeddi ac 1 fodfedd o daldra. Pobol Bethel sydd pia'r record. Nid Bethel, Sir Gaernarfon yn anffodus ond Bethel, Maine. Ac nid dyn eira adeiladwyd, ond dynes eira efo dwy goeden fel dwy
fraich, a dau deiar car fel gwefusau.

eirabbc1.jpg

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈË¿ìÊÖ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.