³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Fred Astaire a Ginger Roberts

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:21, Dydd Mawrth, 6 Hydref 2009

Mae rhywun yn darllen fy Mlog. Hwre!
Sut 'dwi'n gwbod. Wel oherwydd 'dwi wedi cael ymateb. Ac mae ymateb, o unrhyw fath, yn well na dim ymateb o gwbwl. Fel dudodd neb llai na Laurence Olivier pan ofynodd rhywun iddo fo a oedd o'n poeni os oedd adolygydd dramau yn feirniadol o'i berfformiad

"Nac ydw" meddai Larry "Y diwrnod y bydda i'n poeni ydi'r diwrnod pan fydd neb yn dweud unrhywbeth amdana i."

Ond 'does dim rhaid i mi boeni, ar hyn o bryd, beth bynnag, oherwydd mae'r ymateb i un o'r blogiau, wedi cyrraedd ar ffurf awgrym - a dyma fo
"Pam nad oes fersiwn Cymraeg o Strictly Come Dancing? 'Rwy'n siwr gallet ti gael Brucie Bonus, am gyflwyno'r rhaglen, ond pwy fyddai'r ferch orau i gymeryd rhan Arlene Phillips?" Diolch am yr ymateb. Neis i'w weld o - i'w weld o neis.
'Dwi'n ffan anferthol o Bruce Joseph Forsyth Johnson (ei enw llawn) ers dyddiau cynnar, Sunday Night at the London Palladium, pan oedd 15 miliwn a mwy yn gwylio'r rhaglen. Yn wir fe ddaeth gwraig un o ddiaconiaid Capel Smyrna, lle 'roeddwn i'n deud fy adnodau bob nos Sul at y gweinidog a gofyn a oedd modd perswadio fy nhad i ddysgu llai o adnodau i mi. A phan ofynwyd iddi "Pam" ei hateb oedd "Wel, 'da ni'm colli dechra' Saturday Night at the London Palladium"
Ond i ddychwelyd at y cwestiwn. Fe allwn i gamu i mewn i sgidiau dawnsio Bruce, oherwydd fi oedd un o ddisgyblion mwyaf disglair Mrs. Iris Henry, yr athrawes Bioleg, yn ei dosbarth dawnsio-ar-ol-ysgol. Y Samba, y Waltz, y Fox Trot, a hyd yn oed y Pasa Doble, efo'r partner iawn, yn gafael yn dyn yn fy mraich, 'dwi'n siwr y gallem greu argraff ffafriol iawn ar y beirniaid. A phwy fyddai ar y panel yn lle Arlene Phillips, oedd rhan olaf y cwestiwn. Beth am, Margaret Williams. Llond stiwdio o steil, a phrofiad - a llond tair stiwdio, o ddillad. Alwyn Humphreys yn lle Len. Rhywun fyddai'n deud ei farn yn ddiofn. Tudur Owen yng nghadair Bruno, a rotweiller wrth tjaen yn lle Craig Revel Horwood. Ond am funud bach. Os mai fi fyddai Bruce Forsyth, mi faswn i isho dewis rhywun i fod wrth fy ochor yn lle Tess Daly. Pwy'n well na Nia Roberts.
Mi fuon ni'n bartneriaid ar radio Cymru am bum mlynedd, 'da ni'n dau o Sir Fon, ac yn deall ein gilydd i'r dim. Ac wrth gwrs fe fyddai bob amser, chwedl Brucie yn "Neis i'w gweld hi-i'w gweld hi-neis!"

hywelania1.jpg

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈË¿ìÊÖ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.