Y cowntes...
...neu i roi iddi ei theitl crand yn llawn - Rhiannon Lewis, Cowntes Cwmann.
Dyma oedd tîm eisteddfodol Radio Cymru yn Eisteddfod Y Bala eleni:
Dylan Ebenezer yn crwydro'r maes ac yn gwenu ar Ferched y Wawr (ac unrhyw ferched eraill sy'n digwydd mynd heibio); Nia Lloyd Jones yn patro yn y Pafi pinc a'r Cowntes o Gwmann wrth fy ochor inna' yn y stiwdio.
Rhaid i mi gyfaddef mod i'n gwybod yr un faint am gerddoriaeth ac y mae Alwyn Humphreys am gysgu mewn byncabin. Dim llawer.
A dyna pam y mae Rhiannon yn angor cerddorol mewn unrhyw storm o anwybodaeth a ddaw i fy rhan.
Yn chwim ei meddwl, yn ffraeth ei thafod, ac yn hael ei bananas...a'i 'heccles cakes'!
Ond yn bwysicach na dim - bob amser yn cymryd ei gwaith o ddifri'!
Mwy o luniau ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru o Steddfod y Bala.
Oriel luniau Eleri Sion a Daf Du o Gaffi Cyfnod.