³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth

Archifau Ebrill 2009

O le i Lydaw?

Hywel Gwynfryn | 10:20, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

arwydd.jpg

Fe ges i bnawn difyr iawn ddoe, yng nghwmni gwraig oedd yn cofio ennill cyflog drwy deilwra pan oedd hi'n dair ar ddeg oed, awdur llyfr ar hanes Ysgol Rhiwfawr, ac Ysgrifenyddes capel yr Alltwen, sydd hefyd yn gefnogwraig frwd i dîm pêl droed y Swans. Dilwen Williams, Nest Davies a Rhydwen Jones oedd enwau'r dair, ac roedd Cynthia Dodd, Margaret Flook ac Enid Hutchins yn rhan o'r hwyl gawsom ni yng nghwmni'n gilydd hefyd. Chwarae teg i Rhydwen, er ei bod hi'n credu mai tîm pêl droed Abertawe ydi'r tîm gorau yn y byd, mae hi hefyd yn hollol gytbwys ei barn, yn enwedig wrth son am ddyfarnwyr. "Fel arfer" medda' hi "mae pob dyfarnwr yn ddall yn un llygad -ac yn methu gweld yn y llall!"

Gyda llaw mae gen i awydd mynd efo'r genod ar drip ym mis Mehefin i Sempringham, lle carcharwyd Gwenllian, merch Llywelyn ein Llyw Olaf. Ers blwyddyn bellach mae 'na garreg goffa i Gwenllian ar gopa'r Wyddfa, ac arno'r geiriau 'Teyrnged i'r Dywysoges Gwenllian (1282-1337) unig blentyn y Tywysog Llywelyn ap Gruffydd, Arglwydd Eryri, Tywysog Cymru.' A'r wythnos yma fe gytunodd yr Arolwg Ordnans i ail enwi un o garneddi Eryri yn Garnedd Gwenllian.

Gair efo Mallt Anderson, ysgrifennydd gweithgar Cymdeithas Gwenllian, ac ella y bydd 'na le i mi a'r peiriant recordio ar y bws.

'Rwan ta, beth am y llun. Fe 'nes i gyfarfod y merched, yn ymyl yr arwydd sy'n dweud fod 'na 765 o gilometrau o'r dref yma i Locminé yn Llydaw.
Ateb, yn y blog nesaf.

Cyn diwedd yr wythnos yma fe fydda i'n galw heibio murlun lliwgar yn y Fflint, cadair eisteddfodol ym Maerdy, ger Corwen, a Gwyl Bianos yn Galeri Caernarfon.
Yn ogystal, 'dwi'n edrach ymlaen at ychydig o Antur, yn Waunfawr.

Os oes 'na unrhyw beth diddorol yn digwydd yn eich ardal chi cysylltwch efo mi
hywel@bbc.co.uk ac fe fydd y fan a fi yn y fan a'r lle.

Lle 'di'r lle yn y llun?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 10:16, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

aberaeron.jpg

Ar fy ffordd, yn y fan i Langranog, fe dynais i'r llun yma. Unrhyw syniad lle mae o? Ateb ar ddiwedd y blog...

llang.jpg

A hei Gwenda Owen, hefyd. 'Roedd hi a'i band wedi dod i wersyll yr Urdd i ganu yn y Jambori i dathlu cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Cerdigion 2010.

Ac os 'da chi'n dathlu unrhyw achlysur, neu os oes ganddoch chi stori sy'n haeddu sylw cenedlaethol, anfonwch ebost at hywel@bbc.co.uk

Ateb, i'r lle yn y llun: Aberaeron

"The only guy yn y pentre sy'n gwneud ffyn"

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 10:08, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

llanddewi_brefi.jpg

Cyn i Landdewi Brefi gael ei anfarwoli ar raglen deledu Little Britain, 'roedd Dafydd Dafis wedi dod ac enwogrwydd i'r pentref, gan fod y ffyn bugail y mae o'n eu cerfio wedi mynd
i bedwar ban byd. Ar ôl parcio'r fan tu allan i'r gweithdy fe ges i hanes y ffyn aeth i'r America, y ddwy brynwyd gan y brodyr Roux, a'r chwech aeth i Highgrove ar ôl galwad phone (neu alwad ffôn, efallai!) gan y Tywysog Charles. Mae Dafydd yn sôn am wneud ffon i Geraint Lloyd. Gair bach o gyngor Dafydd- cofiwch mai Cardi ydi o!

tomi.jpg

Mewn siop, sydd hefyd yn gaffi, yn Llangeitho, y clywais i Tomi Penuwch yn chwarae'r llif, crefft ddysgodd o flynyddoedd yn ol pan oedd o yn y fyddin. Ac mae 'na son, efallai y bydd
y delynores Catrin Finch a Tomi yn cyd-chwarae ar gryno ddisg yn y dyfodol.

siop_llangeitho.jpg

Fedrwch chi ddim dweud yr enw Llangeitho heb ychwanegu enw Mari James, un o eiconau darlledu yn y gorffennol. Ei siop hi sydd wedi cael ei hailagor yn y pentref ac mae 'na gaffi yn y cefn lle bu Cathod Ceitho, Girls Aloud y cylch, yn canu ar raglen Jonsi.

Hywel Dda

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:21, Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

hendy.jpg

Tu allan i Ganolfan Hywel Dda. O'r chwith i'r dde Roy Llywelyn, un o gongolfeini Papur Bro y Cardi bach, sy'n dathlu i benblwydd yn ddeg ar hugain oed eleni. (Hynny ydi y papur nid Roy!) Chwarae bowls sy'n mynd a bryd Mel Jenkins wrth ei ochor, tra mae Haydn Lewis yn gwybod holl hanes y dref a'r cylch. Ers i mi ymweld a'r Ganolfan rhyw dair blynedd yn ôl mae hi wedi cael ei hymestyn i gyfarfod a'r galw sydd 'na i ddefnyddio'r cyfleuster, a Ken Rees, ar y dde, sy'n cadw i'r oesau a ddel yr hanes a fu.

cyfraith_hywel.jpg

A thra 'roedd yr hogia yn mwynhau yr heulwen, fe es i, i fynny'r grisia, i gael golwg
ar fy nghyfreithiau!

Carreg Las y Preseli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:46, Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

hywelpreseli.jpg

Hanner can mlynedd ar ôl geni Violet, ym Maesteg, fe agorodd drysau Ysgol Bro'r Preseli yng Nghenarth, ac i ddathlu'r achlysur mae Caryl Parry Jones a'r prifardd Ceri Wyn wedi 'sgwennu sioe gerdd "Garreg Las" sy'n edrych ar hanes yr ardal drwy gyfrwng gwahanol gyfnodau cerddorol. Fe ges i ddiwrnod pleserus iawn, yng nghmwni'r bobol ifanc tra 'roedden nhw'n ymarfer y sioe, ac mae'n rhaid i mi ddeud fod y trowsusau flares, a'r crysau seicadelig yn dwad ac atgofion yn ôl o Gwynfryn, efo'i perm, yn Carnaby Street yn y chwedegau.

Diolch i Ysgol Bro'r Preseli am y gwahoddiad, ac os 'da chi am i mi roi llwyfan Cenedlaethol, ar Radio Cymru, i ddigwyddiad yn eich ardal chi, e bostiwch fi-
hywel@bbc.co.uk

Cawr Cenarth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:40, Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Ar fy ffordd i Fro'r Preseli fe ges i air efo Dewi Williams, neu Dewi Stiff fel 'roedd o'n cael ei adnabod pan oedd o'n gweithio i gwmni o Ymgymerwyr flynyddoedd yn ôl.. Bellach mae'r cawr rhadlon yma wedi ymddeol ac yn gofalu am y maes parcio wrth rhaeadrau enwog Cenarth, lle bydd Gwyl yr Afon yn cael ei chynnal ym Mis Gorffennaf.
hywelcenarth.jpg

Busnesu mewn busnes yng Nghaerfyrddin.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:58, Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Ar ei rhaglen yn ddiweddar 'roedd Nia yn sgwrsio efo teuluoedd oedd wedi mynd ati i sefydlu busnes, ac fe es i draw i ddarlledu'n fyw o fusnes teuluol yng Nghaerfyrddin lle mae Marian a'i merch Hawys wedi sefydlu busnes sy'n gyfuniad o siop sy'n gwerthu nwyddau cartref a chaffi yn y cefn. Er mai Pethau Bychain ydi enw'r siop tydi hi ddim yn cael ei noddi gan Dewi Sant!.
hywelpethaubychain.jpg

Pwy oedd yma, ym Maesteg, ganrif yn ôl.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:53, Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

1909. Dyna'r flwyddyn y talwyd y pensiynau cyntaf i bobol dros 70 oed. Fe enillodd Freddie Welsh o Bontypridd wregys Lonsdale am y tro cyntaf, ac fe roddwyd cadair i T. Gwynn Jones am ei Awdl i Wlad y Bryniau. Ond y digwyddiad pwysicaf ar Chwefror 15fed 1909, oedd geni Violet Edwards-Mathews, ym Maesteg, a phan es i draw i'w gweld hi, a'i theulu, yng Nghwmfelin, yn ddiweddar, 'roedd hi'n medru cofio a chanu emyn ddysgodd hi yn dair oed. Dipyn o gamp.
hywelcwmfelin.jpg

FFAGOTS A PHYS YM MARCHNAD CAERFYRDDIN

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:26, Dydd Iau, 9 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

marchnad_caerfyrddin.jpg

Er mai ym Mai, mae'r agoriad swyddogol, 'roedd marchnad newydd Caerfyrddin wedi agor ddydd Mercher, ac erbyn i mi gyrraedd 'roedd hanner Sir Gâr yn crwydro o gwmpas y stondinau.

cig.jpg

Mae teulu Chris Rees wedi bod yn stondinwyr yn y farchnad ers pum cenhedlaeth
ac mae o a'i wraig Ann, yn cynnig pob math o gigoedd ar eu stondin. 'Roedd yr
'hams' yn crogi o'r to yn f'atgoffa fi o dÅ· Nain ers talwm, lle byddai cig moch wedi ei halltu yn crogi o nenfwd y gegin, a nhaid yn torri sleisen efo cyllell finiog ar gyfer swper.

cwtch_bach.jpg

Caffi Cwtch ydi enw caffi'r farchnad, ac fel y gwelwch, mi ges ffagots efo grefi pys slwj a chips!

CYSGU

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 16:27, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

'Dwi ddim yn cysgu'n dda o gwbwl y dyddia' yma. Neithiwr 'roeddwn i'n deffro bob awr ar yr awr. Lawr grisia'. Gneud panad. Edrych ar ffilm erchyll efo Jean Claude van Damme. Damio hwnnw, am fy mod i wedi edrych ar y fath sothach ac yn dal ar ddihun.
Nôl i'r gwely, mor dawel ag y medrwn i. Ond ddim digon tawel.. Sŵn 'sgyrnygu bygythiol o gyfeiriad y wraig yn awgrymu fod fy mywyd mewn perygl oni bai fy mod i'n gallu datrys y broblem, neu'n cysgu mewn 'stafell arall, neu'n well fyth, mewn gwlad arall! Rydw i wedi defnyddio tapiau hunan-hypnosis yn y gorffennol: llais Americanaidd yn siarad yn eich clust. "Hi there, pilgrim. Had a hard day? Relax. I'm gonna take you back to your childhood. I want you to think of a quiet place, near water. The seaside perhaps. It's good to be back there, in the sunshine- isn't it?" Sŵn tonnau yn torri ar y traeth yn eich suo i gysgu. Felly beryg mai tyrchu yng ngwaelod y wardrob y bydda i heno yn chwilio am y tapiau hynny.....
Ond nos fory, cryno ddisg fydd yn mynd a fy sylw i. Un newydd gan Gôr Orffiws Treforys, fydd yn y siopa' yr wythnos nesa ac mae cyfle i chi glywed sgwrs arbennig a gefais i efo Joy Aman Davies, yr arweinydd, ac aelodau'r côr ar raglen Nia fore Iau. Yn ogystal â hyn - fe fydd y Côr hefyd i'w glywed yng nghornel y corau ar fy rhaglen i fore dydd Sul.
Unrhyw gyngor cysglyd- ebostiwch fi- hywel@bbc.co.uk

LLYGADU LLYGOD LLANARTHNE.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:08, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Ar drothwy'r Grand National yn Aintree, 'rodd na rasio cyffrous yn Llanarthne
hefyd , ond dim un ceffyl i'w weld yn unman-

llygoden.jpg


dim ond llygod. Fe ddaeth Lyn Williams a'i lygod i dafarn yr Emlyn Arms ar gyfer noson wedi ei threfnu gan Glwb Ffermwyr Ifanc y Cylch. Llongyfarchiadau i Lyn am gasglu £90,000 o bunnoedd tuag at achosion da.

hywel_lynne.jpg

Cofiwch fod y fan a fi ar fynd o le i le, ledled Cymru. Os 'da chi am lwyfan cenedlaethol i ddigwyddiadau lleol yn eich ardal chi, cysylltwch efo fi

hywel@bbc.co.uk

POBOL Y CWM DU.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:59, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Petai yna gangen o'r Taffia yng Nghwm Du, does dim dwywaith mai Hywel Jones fyddai'r Godfather. 'Roedd o wedi trefnu'n fanwl iawn ar gyfer ein hymweliad â'r pentref
sydd ar gyrion Talyllychau. Pentref y pentrefwyr ydi Cwm Du, yng ngwir ystyr y gair. Nhw sy'n rhedeg y cyfan- y dafarn, y siop, y capel, yr holl ddigwyddiadau.

Menter gymunedol lwyddiannus iawn.

I gloi ein hymweliad fe gawson ni'r pleser o glywed pedwarawd o Ysgol Tre Gib a
fydd i'w clywed eto ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd.


tafarn_cwmdu_2.jpg

PEN BLWYDD HAPUS A LOT O GWSTARD.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 15:46, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Diolch yn fawr i Angela Edwards, Pennaeth Ysgol Penuwch am ei gwahoddiad i ddathlu pen blwydd yr ysgol yn 130 oed.

Fe glywsom ni gan Siencyn Morgan Griffiths am y ffos yr adeiladwyd er mwyn i'r plant fedru llechu mewn argyfwng yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac roedd un o'r cyn benaethiaid, Vaughan Evans, yn adrodd stori am argyfwng oedd yn ei wynebu o yn ei wythnos gyntaf fel pennaeth. Roedd hi wedi bod yn bwrw eira yn drwm ac roedd yn pendroni a ddylai gau yr ysgol ai peidio.... A'r cyfarwyddyd a gafodd? "Gofynnwch i'r gyrrwr tacsi." Fe wnaeth, a chaewyd yr ysgol.

A chyn gadael 'roedd merched y cantîn wedi llenwi ein platiau efo sosejis, chips a phys, a theisen sbynj efo lot o gwstard yn bwdin. Pen blwydd hapus ysgol Penuwch!

YSBYTY NEWYDD ALLTWEN

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:49, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Ar gyrion Porthmadog, ac yng nghysgod Craig y Castell, mae ysbyty newydd Alltwen, s'yn agor ei drysau ar Ebrill y 18fed.

ysbyty_alltwen.jpg

Fe ges i groeso a hanner, nid yn unig gan, aelodau o'r staff - Stan Nuttall, Glenys Perkins ac Eirian Evans, ond hefyd gan blant Ysgol y Gorlan, drws nesa' i'r ysbyty, sy' wedi bod yn brysur iawn yn peintio lluniau fydd yn harddu muriau'r ysbyty.

RHYD-DDU I FEDDGELERT

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 12:43, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

I ddathlu'r ffaith fod y darn nesa' o lein Rheilffordd Eryri wedi agor rhwng Rhyd Ddu a Beddgelert, fe ges i wahoddiad gan Tony Williams, Dafydd Tomos a Gareth
Heulfryn i deithio ar y tren

tren.jpg

A'r bwriad yn y pendraw ydi cario teithwyr o Gaernarfon drwy fwlch Aberglaslyn i
Borthmadog.

tren_3.jpg

Ond 'does na ddim bwriad i gysylltu a lein yr Orient Express- ar hyn o bryd. Yda chi wedi teithio ar y tren yma, neu unrhyw un o drenau bychain Cymru?
Os ydach chi - beth am rannu'ch profiadau ar y blog.

tren_1.jpg

Dim lle i balmant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:51, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

cwellyn_2.jpg

Oedi ar y ffordd i Rhyd Ddu wrth Lyn Cwellyn. Llyn a grëwyd 'nôl yn oes yr Ia.
Mae tymor pysgota'r torgoch a'r brithyll yn cychwyn ddechrau Mai, ac i brofi mod i wedi gwrando'n astud ar Moc Morgan yn y gorffennol, y plu sy'n denu'r pysgod ydi'r
Corff Main a'r Betrisen Corff Gwin.

palmont.jpg

Arwydd tu allan i bentref Rhyd Ddu. Os welwch chi arwyddion tebyg anfonwch
at hywel@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈË¿ìÊÖ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.