Miri Mawr! Steddwch i lawr!
Mae 'na dymor o raglenni ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru ar hyn o bryd, sy'n edrych ar blentyndod.
Dyna pam yr oeddwn i, am hanner awr wedi wyth fore Llun yng nghanol sŵn a hwyl y plant bach yn Meithrinfa Miri Mawr, yn Ystum Taf, Caerdydd yn sgwrsio efo un o'r perchnogion, Wendy Wylie.
Cyn athrawes ydi Wendy, sy'n cofio Caleb, a Dan Dŵr, a'r dyn Creu-cymeriadau y rhaglen deledu boblogaidd, Miri Mawr. Ond bellach mae hi a'i phartner busnes Meinir Williams, a'u tîm o gynorthwywyr yn gyfrifol am ddiddanu'r plant-drwy'r dydd! Wyddoch chi be', mae pobol yn cael medalau am lai!
Ddiwedd yr wythnos fe fydda i yn Machynlleth yng nghwmni Timothy Evans, ac erbyn Nos Wener yn y Llew Du Talybont, a phwy a ŵyr, os ca' i wahoddiad, yn eich ardal chi yn fuan. Cysylltwch efo fi drwy e-bost: hywel@bbc.co.uk