Llun y van yn ymyl Llyn y Fan? Wel, Llyn Clywedog fel mae'n digwydd
ar fan a fi ar y ffordd i Blas Glynllifon.
'Roeddwn i wedi cael gwahoddiad i barti yn y Plasdy nos Fercher i ddathlu penblwydd dosbarth Cynghanedd Karen Owen (hi 'di'r Ledi in red ar y chwith)
yn 5 oed. Wrth ochor Karen mae Annes Glyn, bardd cadeiriol, Steddfod Chwilog yn ddiweddar. Braich John Benjamin sydd am ysgwydd ei wraig Mary. Ieuan Parry ydi'r bardd barfog a Gwynfryn o Fôn sy'n y cefn.
Mae Coleg 6ed. Dosbarth Meirion Dwyfor ar yr un safle a'r Plasdy
a chriw o'r coleg oedd yn dewis "Can cyn cychwyn" ar raglen Eleri a Dafydd
am 8.30 y bore ar ôl y dathlu yn y Plas. Big Leaves yn canu Meillionen oedd y dewis.
Addas iawn i fyfyrwyr amaethyddol.
O'r plasdy wedyn i'r felin. Hen Felin y Cim. Nid malu mae'r felin y dyddiau yma ond
croesawu. Ac mae na le clyd tu mewn i ymwelwyr aros ar lan yr afon Llyfni.
A dyma rai o aelodau Cymdeithas Pysgotwr Seiont a Gwyrfai sydd tu ol i'r fenter.
Y trydydd o'r chwith yn y siwmper goch ydi un o sêr cynnar S4C- Huw Geraint- y Fet.
Panad o de wedyn yng Nghanolfan arddio Frongoch, ger Caernarfon yng nghwmni, dwy o flodau Pencaenewydd, Lizabeth Hughes a Gwyneth Jones.
Ac ar ol y banad, sgwrs am y Ganolfan ar raglen Nia efo Justin a'r tîm.
Os 'da chi, am i ni, y fan a fi, ddwad acw i weld beth sy'n digwydd a rhoi sylw cenedlaethol i'r diwgwyddiad lleol ar Radio Cymru, ebostiwch hywel@bbc.co.uk
Roedd paratoadau munud olaf yn cael yn gwneud ym mhafiliwn Pontrhydfendigaid Ddydd Gwener ar gyfer treialon cwn defaid dan do cyntaf Prydain.
Dyma'r criw oedd wrthi'n cael trefn ar y neuadd, a Charles Arch, sydd i'w weld ar y chwith, oedd y prif drefnydd. Wyneb adnabyddus arall oedd un o gyflwynwyr Radio Cymru - Dai Jones.
Digwyddiad hanesyddol a diolch am y gwahoddiad i ddod draw - a rhoi cynnig ar gorlannu ambell ddafad. DIolch arbennig i Mic - ci ffyddlon Dai am ei gymorth parod! Dani'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i'r Bont y flwyddyn nesaf.
...Yn addas iawn, roedd yr haul uwchben ardal Merched Beca yn machlud mewn
pelen o dan pan gyrhaeddais i Dafarn Beca yn Nhrelech. Dod yma i wybod mwy am rol y dafarn o fewn y gymuned - pa mor bwysig ydi cael lle i gymdeithasu, yn enwedig o feddwl fod yr ysgol a'r siop leol wedi cau.
Mae Ryan a Veronica, y perchnogion, wedi bod yma ers ryw chwe blynedd ac mae'n amlwg fod y dafarn yn ganolfan gymdeithasol i bawb yn y pentre
Tra 'roedd Ryan yn ymarfer ar gyfer ei fuddugoliaeth nesa ar y bwrdd pŵl...
Fe ges i gyfle i gael sgwrs am y pentre a'r dafarn yng nghwmni Ffion, Gwenllian, Manon, Menna, Margaret a Muriel yr hanesydd lleol ac fe gewch chi'r hanes i gyd ar raglen Nia fore Mawrth yr 17ef o Chwefror ar Radio Cymru.
Os am enwebu eich tafarn leol chi - cysylltwch a ni!
Ffoniwch - 03703 500500
E-bostiwch - Hywel@bbc.co.uk
O Gastell Newydd Emlyn fe aeth y fan a fi i berfeddion Sir Gar. Heibio Capel Iwan a Chilrhedyn...
Efallai eich bod chi'n adnabod wyneb perchenog Y Pelican yng Nghastell Newydd Emlyn, Maise Evans, yn dda - yn enwedig os oeddech chi'n mwynhau diod yn y Red Lion, Aberteifi, lle bu Maise yn tynnu peintiau am ddwy flynedd ar bymtheg.
Roedd bon braich Maise mor boblogaidd fel y cyfansoddodd y Prifardd Ceri Wyn Jones gywydd iddi ar ei ymadawiad, lle mae o'n dweud...
"Yn y peint o groeso pur
Maisie yw'r llinyn mesur."
Ar ol treulio awr ddifyr yn ei chwmni fe allai'ch sicrhau chi fod Maise yn Amaiseing!
Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd, oedd y lleoliad ddechrau'r wythnos, a hynny ar wahoddiad Lyn Morgan, i gael mwynhau ffrwyth llafur wythnosau o ymarfer caled criw Gweithdai Bro Taf.
Criw o bobl ifanc oed cynradd ac uwchradd sydd ym ymgynull yn wythnosol yma i fwynhau perfformio sioeau cerdd, ymarfer ar gyfer Eisteddfodau'r Urdd a hefyd dawnsio gwerin. Yn wir mi fydd y criw yn mynd i Mallorca yn Ebrill i ddawnsio mewn cystadleuaeth arbennig - pob lwc a cofiwch roi gwybod sut hwyl gawsoch chi!
Fe gafodd y fan gyfle i oedi ar ochor y ffordd i fwynhau harddwch Pen Llyn cyn symud ymlaen...ond i ble? Wel, penderfynwch chi!
E bostiwch ni ar hywel@bbc.co.uk ac fe fydd y fan a fi yn y fan a'r lle.
Doedd dim angen teithio ymhell o Nefyn i gyfarfod a'r criw yn Hufenfa De Arfon. Diolch i Haf am drefnu'r ymweliad, ac i Rose Jones, Trevor Morris a Brian Evans am y sgwrs a'r croeso.
Dewis y criw o Gan cyn cychwyn ar gyfer rhaglen 'Leri a Daf oedd Ceidwad y Goleudy gan Bryn Fon.
Fi 'di'r un yng nghefn y llun sy'n edrych fel Ena Sharples!
"Your country needs you!" ...Dyna oedd y gri adeg y rhyfel. Erbyn heddiw... "Mae
Brigad Dân Nefyn eich angen chi" ydi'r cais. Mae nhw'n chwilio am ddiffodwyr tan - yn ddynion a merched - i ymuno a'r tim.
Terry Hoff sydd yn y llun, y fo sy'n gofalu am yr orsaf ac wedi bod yn ddiffoddwr tan ers chwarter canrif union. Penblwydd hapus Terry a gwyliwch ganhwyllau'r gacen!
Bob p'nawn Sadwrn pan oeddwn i'n hogyn, fe fyddwn i'n mynd i sinema yr Arcadia yn Llangefni a wedyn yn mynd draws y ffordd i siop jips Wini Welch am bryd o fish, chips a phys slwdj - heb anghofio potel o Vimto i olchi'r cyfan i lawr.
Fe ddaeth yr atgofion yna'i gyd yn ol i mi yn siop jips Stuart Lloyd yn Llambed ddechrau'r wsnos - siop sy'n dathlu ei phenblwydd yn drigain oed eleni, er 'di'r sglodion ddim cweit mor hen a hynny!
Fe gewch chi'r hanes i gyd ar raglen Jonsi ddydd Llun nesaf wrth ei bod hi'n "Wythnos Genedlaethol Sglodion"...ond peidiwch a deud wrth William Jones! Mwynhewch!
Pwy ddywedodd nad ydi ffermwyr yn cael bywyd braf?! Roedd gan ffermwyr mart Dolgellau ddigon o amser i fwynhau paned a sesiwn o dynnu coes, a pha well ffordd o dreulio awr neu ddwy ar fore Gwener na' yn eu cwmni nhw.
Roedd Tom Gwannas yno hefyd - yn gwerthu yn hytrach na phrynnu.
Gwerthu tocynnau ar gyfer cyngerdd go arbennig ar yr 8fed o Chwefror yn Ysgol y Gader, Dolgellau er coffa am y diweddar dalentog Aeron Gwyn.
Yr wythnos yma mi fyddai'n teithio i Gaerfyrddin, Llambed, Pwllheli a Nefyn, ac os ydych chi am i mi ddod draw i'ch ardal chi - yna cysylltwch a'r tim.
E-bostiwch - hywel@bbc.co.uk neu ffoniwch 03703 500500
Erbyn wyth fore Gwener, roeddwn i wedi cyrraedd ffactri drelyrs enwog Corwen i gael sgwrs fo'r gweithlu hwyliog - Gwyn Lloyd, David Jones a Sian Bostock.
Mae'r criw yma'n gesys a hanner, ond bron iddi fynd yn fler wrth i'r tri frwydro dros yr hawl i ddewis Can cyn cychwyn ar gyfer rhaglen 'Leri a Daf ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru rhwng 8.30am a 10.30am.
Catatonia enillodd y dydd y tro hwn, ond cofiwch os ydych chi am i'ch dewis chi gael ei chwarae, yna cysylltwch a'r tim ar 03703 500500. Neu'n well fyth, beth am roi gwahoddiad i ni ddod acw i'r swyddfa/ysgol/cartref i gael eich dewis wyneb yn wyneb.
Gair o rybudd gan Sian cyn cloi, gwyliwch eich cyflymder os yn gyrru drwy'r Rhos - rhag ofn i'w gwr eich stopio am sgwrs!
Ar gyrion Y Bala, mae 'na Ganolfan newydd sbon, Canolfan y Cywain. Roedd 'na ocsiwn arbennig nos Iau, nid ocsiwn ddodrefn na' anifeiliaid, ond yn hytrach cardiau post wedi eu darlunio gan artistiaid o'r cylch, a'r cyfan i gasglu arian at gronfa Eisteddfod Genedlaethol Meirion, fydd yn cael ei chynnal yn Y Bala eleni.
Dyfrig Siencyn o Ddolgellau oedd yng ngofal y morthwyl, ac yn cadw cwmni iddo yn y llun mae Lona Puw, cadeirydd y Ganolfan, Nansi Thirsk sydd yn aelod o'r pwyllgor Celf, a Glyn Baines, yr artist adnabyddus, sydd yn weithgar gyda'r paratoadau hefyd.
Mae'r Aelod Seneddol lleol - Elfyn Llwyd, wrth ei fodd yn cadw cwmni i'w golomenod yn ei amser sbar. 'Sgwn i sawl colomen fuasai'n rhaid iddo fo'u gwerthu er mwyn cael prynnu llun gan Iwan Bala?!
Cyn-athro Lladin ydi Gareth Jones a roedd o wedi rhoi un o'i luniau dyfrlliw yn rhodd i'r ocsiwn. Llun o ffordd yn mynd drwy'r coed yn yr Hydref, neu fel y dywedodd Gareth..."y via yn mynd drwy'r arbor yn Octobris."
'Dani'n edych ymlaen at Eisteddfod Meirion yn barod. Pob hwyl gyda'r trefniadau - mi fyddwn yn mentro i ymarfer Cor yr Eisteddfod dan arweiniad Eirian Owen y mis nesaf, ac mi gewch chi ymuno yn yr hwyl ar raglen Geraint Lloyd. Cofiwch gadw llygad ar y blog am fwy o fanylion.