³ÉÈË¿ìÊÖ

Archifau Rhagfyr 2012

Cofio'r enigma, Dic Aberdaron

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý,Ìý

Elin Meredith Elin Meredith | 11:05, Dydd Gwener, 14 Rhagfyr 2012

Sylwadau (2)

Mae Bryn Fôn wedi canu amdano, Jan Morris wedi sgwennu amdano a T H Parry Williams ac R S Thomas wedi barddoni amdano. Ac er bod dros 200 mlynedd wedi pasio ers geni'r ieithgi ecsentric a'r carwr cathod, Dic Aberdaron, mae ei enw yn dal i fod yn un cyfarwydd i Gymry heddiw.

Dic Aberdaron (Richard Robert Jones) (1780-1843), gan William Roos, c.1850, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Crwydryn hunanaddysgedig oedd yn adnabyddus am ei allu i ddysgu ieithoedd oedd Dic, neu Richard Robert Jones o roi ei enw llawn. Honnai ei fod yn gallu siarad 15 o ieithoedd.


Bu farw ar Ragfyr 18 1843 yn 63 oed ac mae wedi ei anfarwoli hyd heddiw mewn cân, celf a chof llawr gwlad. Yr enghraifft ddiweddaraf o'r anfarwoli hwn ydy'r paentiad olew ohono sydd ymysg y lluniau sydd bellach i'w gweld ar wefan Your Paintings y ³ÉÈË¿ìÊÖ sydd newydd gwblhau ei tharged uchelgeisiol o gasglu holl baentiadau olew gwledydd Prydain sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus. Am y tro cyntaf, maen nhw i gyd i'w gweld ar y we.

Mae'n brosiect ar y cyd rhwng y ³ÉÈË¿ìÊÖ a'r Public Catalogue Foundation (PCF).

Mae 211,861 o ddarluniau bellach ar y wefan - 12,500 ohonyn nhw o Gymru gan gynnwys gwaith Claudia Williams, Donald McIntyre, Kyffin Williams, Tunnicliffe, Edward Povey, Shani Rhys-James ac Augustus John, i enwi dim ond rhai.

Daw paentiad Dic Aberdaron o gasgliad yr arlunydd William Roos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: gallwch weld mwy o'r casgliad, sy'n cynnwys portreadau o Twm o'r Nant a Christmas Evans, ar wefan Your Paintings.

Yn ôl yr hanes, dysgodd Dic Aberdaron Ladin yn 12 oed a nifer o ieithoedd eraill wedi hynny.

Rhoddodd heibio gyfle i ennill bywoliaeth ar y môr, fel ei dad a oedd yn saer llongau yn Aberdaron, a threuliodd weddill ei oes yn crwydro Cymru a thu hwnt gyda'i lyfrau a'i gath yn byw ar gardod ac yn astudio ei lyfrau a chyfieithu.

Roedd yn gymeriad adnabyddus iawn yn ei ddydd a bu'n lwcus iawn o haelioni noddwyr a roddai loches ac arian iddo o bryd i'w gilydd er mwyn hyrwyddo'i astudiaethau. Ysgrifennodd eiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ond ni chafodd ei gyhoeddi erioed.

Awgrymodd Jan Morris, a ysgrifennodd amdano yn ei llyfr The Matters of Wales, mai darganfod ei allu i ddysgu ieithoedd oedd ei ddiwedd gan iddo droi ei gefn ar waith a bywyd confensiynol a dod yn drempyn am weddill ei oes er mwyn dilyn ei ddiléit mewn llyfrau.

Ar ei fedd ym mynwent y plwyf yn Llanelwy, lle bu farw, mae'r englyn yma gan Ellis Owen:

Ieithydd uwch ieithwyr wythwaith, - gwir ydoedd,
Geiriadur pob talaith:
Aeth Angau â'i bymthengiaith;
Obry'n awr mae heb r'un iaith.

Ysgrifenodd TH Parry Williams amdano yn bur ddirmygus yn ei Rigymau sy'n cynnwys y llinell 'Nid yw pawb yn gwirioni'r un fath' tra rhoddodd RS Thomas ddarlun mwy ystyriol a dwys ohono sy'n ceisio ateb y cwestiwn, pwy yn union oedd Dic Aberdaron?

Trempyn llengar, athrylith aeth ar gyfeiliorn, diniweityn cyfrwys, sgamiwr, polyglot eangfrydig oedd o flaen ei oes, neu berson cyffredin â gallu hynod?

Pwy a ŵyr?

Mae mwy o luniau ohono a gwrthrychau eraill i'w gweld yng ond er y dystiolaeth weledol a hanesyddol, mae Dic Aberdaron yn parhau'n enigma hyd heddiw.

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.