³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhun ap Iorwerth: Y gymhariaeth rhwng Cerys Matthews a'r Prifardd newydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 18:52, Dydd Llun, 6 Awst 2012

Mae Cerys Matthews newydd gyrraedd! Mae'n sefyll draw fan acw yn ein swyddfa yn trafod beth i'w gynnwys yn ei rhaglen hi o uchafbwyntiau'r Brifwyl fydd yn cael ei ddarlledu ar deledu rhwydwaith y ³ÉÈË¿ìÊÖ y penwythnos nesaf.

Nid ymffrostio ydi hyn ond, fel y dwedodd Neil Rosser yn ei gân, dwi'n adnabod Cerys Matthews hefyd - roedd hi yn y coleg efo fi (flwyddyn neu ddwy yn ôl, bellach!) ac rydw i'n falch iawn o'r llwyddiant rhyngwladol mae hi wedi ei brofi fel cantores.

Mae'n wych felly bod cynulleidfa deledu trwy Brydain am allu profi'r Brifwyl drwy lygaid un mor adnabyddus.

Fe ddylem fod yn falch iawn o'n hallforion Cymreig - yn gantorion, actorion, darlledwyr, pobl fusnes ac ati - ac heb os mae'n rhoi statws ychwanegol i'r Eisteddfod a'r diwylliant Cymreig yn ehangach pan mae'r bobl hynny yn dangos i'r byd mor bwysig iddyn nhw yw'r diwylliant hwnnw.

Rwyf am ddwyn cymhariaeth rhwng Cerys a'r Prifardd newydd os y caf i.

Roedd rhoi coron ar ben Gwyneth Lewis heddiw yn ddatganiad rhyngwladol o safon barddoniaeth Cymru. Dyma fardd byd-eang sydd â pharch byd-eang. Pan glyw y byd barddonol bod Gwyneth wedi ennill y wobr hon, bydd yn brawf iddyn nhw o bwysigrwydd y gystadleuaeth.

Os y barnodd y beirniaid bod Gwyneth Lewis yn wirioneddol deilwng o Goron yr Eisteddfod Genedlaethol, fe hoffwn innau ddatgan fy malchder bod ein traddodiad barddol Eisteddfodol cyn gryfed ag erioed a bod cystadleuaeth y Goron yn deilwng o gais gan Gwyneth Lewis.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.