³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhun ap Iorwerth - Blog Sadwrn Cyntaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 12:06, Dydd Sadwrn, 4 Awst 2012

Mae cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 4 yr Eisteddfod ar un sgrin o fy mlaen, a triathlon y merched yn y gemau Olympaidd ar sgrîn arall. Ydi, mae hon yn mynd i fod yn wythnos o blethu dau ddigwyddiad tra gwahanol.

'Dwi wrth fy modd efo'r gemau Olympaidd. Mae'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn wledd - Michael Phelps yn y pwll, beicwyr Prydain yn y Velodrome, Jessica Ennis yn rhyfeddu pawb yn y stadiwm athletau a - fy ffefryn personol i - tîm dynion boliog, blewog yr Eidal yn trechu tîm o Americanwyr Hollywood-aidd gyda sgôr perffaith o 10 ar y saeth olaf un yng nghystadleuaeth y timau bwa saeth. Mi alla' i wylio a gwylio am oriau, ac mi fues yn ddigon ffodus i gael bod yn Llundain ar y noson agoriadol yn cyflwyno rhaglen arbennig i S4C gyda'r parc Olympaidd yn gefnlen.

Diolch byth, does dim raid aros pedair blynedd rhwng un Eisteddfod Genedlaethol a'r nesaf a bellach - gyda phrifwyl Wrecsam yn ymddangos yn frawychus o ddiweddar - dwi yma ym Mro Morgannwg, yn sŵn y bandiau pres, ac yn edrych ymlaen am wythnos i'w chofio.

Fel yn y gemau Olympaidd yr amrywiaeth yw rhan o apêl yr Eisteddfod i fi. Mi fydd y prif gystadlaethau yn bachu'r penawdau wrth gwrs: y gadair a'r goron, rhuban glas yr unawdwyr, y corau mawr - dyna'r fersiynau Eisteddfodol, am wn i, o'r gwibio 100m Olympaidd. Y Prifardd ifanc newydd Rhys Iorwerth oedd Usain Bolt Eisteddfod Wrecsam y llynedd.

Ond fel yn Llundain, bydd sêr newydd yn dod i'r amlwg yr wythnos yma yn y Fro a hynny, weithiau, o lefydd mwy annisgwyl. Dwi'n edrych mlaen i brofi gwaith ein enillwyr Celf, i weld pwy fydd yn llwyddo - fwy nac unwaith efallai - wrth fentro i'r llwyfan am y tro cyntaf.

Mae mwy i'r Eisteddfod, fodd bynnag, na'r enillwyr a'r cystadlu ei hun. Yn Llundain wythnos yn ôl, cefais fy nharo gan gyffro'r awyrgylch. Pawb yn eu hwyliau. Bechgyn lleol yr East End yn chwarae gêm o 'pa-wlad-fydd-nesaf-i-orymdeithio-o-gwmpas-y-stadiwm' yn y Carpenters Arms yn ystod y seremoni agoriadol. Yr edrych 'mlaen.

Yr awyrgylch sy'n gwneud Eisteddfod hefyd. Dwi wedi dweud hyn o'r blaen, ond mae gan bob Eisteddfod - a phob gemau Olympaidd - ei chymeriad ei hun. 'Sgwn i pa atgofion fydda' i'n mynd adref efo fi ar ôl prifwyl 2012? Dwi'n edrych mlaen i ddarganfod yr ateb.

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.