成人快手

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Castiau - llyfr gan Pedr Wynn-Jones

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Joanna Davies Joanna Davies | 13:16, Dydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2011

Er ei froliant mentrus, llyfr go draddodiadol ydi Castiau听sydd newydd ei gyhoeddi. Dyma adolygiad ohono:

Adolygiad Joanna Davies o Castiau 鈥 Llyfr i Blant Drwg o Bob Oed 听gan听Pedr Wynn-Jones. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.50.

Dyma 鈥楲yfr i blant drwg o bob oed鈥, medd yr awdur, Pedr Wynn-Jones ar y broliant i鈥檞 gyfrol newydd, 'Castiau'.

Hoffais yr arddull ffwrdd a hi a thafod yn y boch ar glawr y llyfr gyda鈥檙 neges annisgwyl, 鈥淕obeithio cei di鈥檙 un pleser o ddarllen y rwtsh yma鈥!

Ond er y broliant 鈥榤entrus鈥, llyfr go hen-ffasiwn a thraddodiadol yw Castiau yn edrych n么l ar anturiaethau鈥檙 awdur yn fachgen ifanc yn Sir Y Fflint.

Braidd yn hirwyntog yw鈥檙 disgrifiad agoriadol o ardal enedigol yr awdur; o ddiddordeb i drigolion yr ardal yn sicr ond, efallai, nid i hwntw fel fi!

Lle mae鈥檙 awdur yn llwyddo yw yn ei ddisgrifiadau o鈥檌 gymeriadau.

Mae 鈥楲oidi鈥 yn arbennig yn bortread celfydd o gyn-athro鈥檙 awdur a听cheir ambell i linell gomig sy鈥檔 taro deuddeg: "Os na fydd Loidi yn y nefoedd, wel dydi鈥檙 fath le ddim yn bod-neu mi fydd Loidi dal yn fyw, dwi ddim yn siwr鈥"

Mae鈥檔 ysgrifennu mewn ffordd agos atoch ac yn sgwrsio gyda鈥檙 darllenydd gyda digon o j么cs; "Hyd at y 50鈥檊au doedd lliw ddim wedi cael ei ddarganfod fel y mae heddiw鈥 heblaw am ambell i ymgais aflwyddiannus i greu brown."

Straeon shaggy dog ys dywed y Sais yw鈥檙 rhain yn ymddolennu鈥檔 ddigon hamddenol cyn cyrraedd y 鈥榩wynt鈥, (efallai鈥檔 or hamddenol ar brydiau).

Yn achos Loidi, gwelwn athro sy鈥檔 dal i fyw yn y gorffennol ac sydd wrth ei fodd yn adrodd straeon am ei gyfnod yn Siapan adeg yr Ail Ryfel Byd.

Ond nid yw鈥檙 straeon yn echrydus o gofio鈥檙 cyfnod trychinebus hwnnw; wedi鈥檙 cwbwl siarad gyda鈥檙 plant mae Loidi. Ac mae 鈥榖yw yn y gorffennol鈥 yn thema barhaus yn y gyfrol.

Mae yna 鈥榝oeswers鈥 ar ddiwedd hanes Loidi wrth i鈥檙 awdur yn blentyn greu darlun o dylluan 鈥榣as鈥 a chael ei watwar gan y plant eraill am ddefnyddio lliw anaddas ond dywed Loidi wrtho, "Paid ti byth 芒 gadael i neb ddweud wrthat ti be di lliw dim byd r诺an."

Mae yna sentiment rhamantaidd wrth i鈥檙 awdur feddwl ei fod yn dal i weld y dylluan las "allan yn y nos du" hyd heddiw.

Ceir digon o ymadroddion trawiadol a disgrifiadau digri yn y gyfrol 鈥 fel y disgrifiad o ben-么l y Prifathro fel "dwy sach lwyd o datws oer" a Phrifysgol 鈥楴ewfangelton鈥.

Ceir cyffyrddiadau o Daniel Owen a鈥檌 gymeriad cofiadwy, Wil Bryan, yn y straeon capel lle mae鈥檙 awdur a鈥檌 frawd yn chwarae triciau ac nid tan yr ail bennod cawn 鈥榞ast鈥 neu 鈥榙ric鈥 go iawn.

Mae鈥檙 castiau鈥檔 cynnwys gludo capelwraig dew i鈥檞 sedd a 鈥榬hechan鈥 yn y capel (neu ffugio rhechan diolch i鈥檙 seddau swnllyd). Hiwmor diniwed yr oes a fu a theimlwn fod yr awdur yn edrych yn 么l ac yn hiraethu o bosibl am gyfnod llai helbulus.

Mae鈥檔 stori hawdd iawn i鈥檞 darllen gyda鈥檙 penodau鈥檔 gryno ac yn arwain yn esmwyth i鈥檙 鈥榗ast鈥 nesa鈥.

Hoffais y disgrifiad o fam yr awdur adeg Dolig yn disgwyl ymwelwyr ac yn "gwisgo鈥檙 飞锚苍 fach honno yr oedd yn ei chadw mewn potyn yn y cyntedd."

Cafwyd tro annisgwyl yn hanes Idwal ddiniwed yn gorfod cario鈥檙 bwced o 鈥楳ostistericasid鈥 am filltiroedd lawer at ffermwr lleol.

Wn芒i ddim sbwylio鈥檙 鈥榗ast鈥 ond roedd yna gyffyrddiad 鈥榙yfnach鈥 na鈥檙 disgwyl lle mae Idwal yn cael gweledigaeth ac yn cael 鈥榮gwrs鈥 gyda鈥檌 hynafiaid, yn cynnwys ei dad wnaeth farw鈥檙 flwyddyn flaenorol ar ei siwrne wledig i鈥檙 fferm.

Mae鈥檔 disgrifio鈥檙 weledigaeth fel 鈥榯eimlad ein bod yn rhan o draddodiad cadarn gwerinol a gogoneddus o remp.鈥

Hoffwn petai鈥檙 awdur wedi datblygu ar y thema hon. Fel ag y mae, daw鈥檙 鈥榳eledigaeth鈥 yn ddisymwth i鈥檙 stori ac yna mae鈥檔 diflannu wrth i ni ddychwelyd at fyd y 鈥榗astiau鈥 arwynebol.

Yn sicr adeg Dolig pryd mae tuedd gan ddyn (neu fenyw) at 鈥榥辞蝉迟补濒驳颈补鈥, mae 鈥楥astiau鈥 yn anrheg addas i鈥檙 darllenwr h欧n, yn arbennig y darllenwr o鈥檙 un fro 芒鈥檙 awdur.

Fel y dywed fy mam, "o鈥檔 i鈥檔 cael sbri, ond dim sbri cas blynydde n么l".

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.