³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Proffwyd y Bont

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:35, Dydd Iau, 3 Tachwedd 2011

Wrth gwblhau brawddegau mewn rhifyn diweddar o'r cylchgrawn WA-w! awgrymodd bardd coronog Eisteddfod Wrecsam yn gryf yr hoffai fod rhyw ddydd yn Archdderwydd.

Does gen i ddim copi o mlaen ar y funud ond dywedodd rywbeth i'r perwyl na fyddai'n dweud 'Na' pe byddai'r gwahoddiad yn dod!

Cafodd y posibilrwydd ei grybwyll eto mewn noson a drefnwyd i ddathlu camp y prifardd newydd yn Y Bontnewydd, y pentref lle mae'n byw.

Y noson honno, cyfarfchodd Hilma Lloyd Edwards, prifardd arall y pentref - a does yna ddim gormodedd o'r rheini chwaith, pentrefi dau brifardd - Geraint gyda'r englyn proffwydol hwn a gyhoeddwyd wedyn yn y papur bro lleol, Lleu:

Haeraf, i'r gair Archdderwydd - (ni rwdliaf!)
ceir odl ysblennydd,
un a ddaw i fod rhyw ddydd,
a honno yw - Bontnewydd!

Yr oedd Gerallt Lloyd Owen yn y noson hefyd - ond does dim sôn a roddodd farciau i'r englyn o ran ei grefft neu ei broffwydoliaeth.

Ac mae dyfalu, siŵr o fod, ai archdderwydd ynteu archdderwyddes ddaw o'r Bont yn gyntaf.

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.