³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Arwr Môn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 06:27, Dydd Llun, 24 Hydref 2011

John Stevenson yn sgrifennu am lyfr newydd sydd wedi gwneud cryn araff arno.

Yr ydw i newydd orffen darllen llyfr Saesneg am ŵr go arbennig o Ynys Môn a gafodd fywyd a gyrfa hynod ac amryliw.

Yn drefnydd undeb llafur, yn uchel swyddog yn y Fyddin, yn aelod seneddol ac yna yn gweithio i ddatblygu amaethyddiaeth yn Affrica yr oedd bywyd Owen Thomas yn un o lewyrch a llwyddiant ar y naill law ond yn un o ing a thristwch enbyd ar y llall.

Clawr y llyfr

David Pretty ydi awdur cyfrol Saesneg ragorol amdano a gellir dweud bod y llyfr yn ffrwyth llafur cariad go iawn.

Ers cyhoeddi llyfr Cymraeg am Owen Thomas dan y teitl Rhyfelwr Môn ugain mlynedd yn ôl gwnaeth David Pretty lawer iawn mwy o waith ymchwil a'r gyfrol hon yw ffrwyth y llafur hwnnw.

Pwy felly yw gwrthrych y gyfrol?

Cafodd Owen Thomas ei eni yn Llanbadrig, reit ym mhen pella ynys Môn yn ystod cyfnod y stadau mawrion a'i dad yn denant ar fferm Carrog.

Cafodd fagwrfa gyfforddus er i'r teulu brofi anghyfiawnder yn gynnar ym mywyd y bychan.

Fel mae David Pretty yn nodi gorfodwyd ei dad i adael Carrog heb geiniog o iawndal er mwyn sicrhau'r lle i frawd y tirfeddiannwr ar ddychweliad hwnnw o'r fyddin yn yr India.


A'r awgrym yw i'r profiad cynnar hwn danio yn Owen Thomas awydd i wrthsefyll pob annhegwch ac anghyfiawnder.

Hynny oedd wrth wraidd ei waith gydag Undeb Gweithwyr Môn a'i ethol yn aelod seneddol Llafur Môn yn 1918 - y cyntaf i gael ei ethol mewn sedd wledig dros Lafur.

Gwnaeth gryn waith o fewn ei filltir sgwâr cyn camu i lwyfan tipyn ehangach; bad achub Cemaes a'r Anglesey Trading Company yn ddwy enghraifft o'i weithgarwch lleol - a'r bad achub yn fwy o lwyddiant na'r fenter fasnachol!

Cafodd ei ethol yn aelod o'r cyngor sir newydd yn 1889 a'r flwyddyn wedyn yr oedd yn un o ladmeryddion sefydlu un o'r undebau llafur gwledig cyntaf yng ngwledydd Prydain.

Ar ei anterth, roedd gan Undeb Gweithwyr Môn filoedd o aelodau.

Ym mlynyddoedd y Rhyfel Mawr, ef gafodd ei ddewis gan Lloyd George i geisio recriwtio ar gyfer y Fyddin Gymreig, sef y llu milwrol gafodd ei sefydlu gan Lloyd George .

Ond llechai ing dan yr wyneb yn ei fywyd ac ar wahân i'r troi allan o'r cartref profiad chwerw arall fu colli ei le fel uchel swyddog yn Nghatrawd (Gymreig) 38.

Awgrym David Pretty yw mai cenfigen gwleidyddol oedd tu ôl i hynny a chenfigen o'i gyfeillgarwch â Lloyd George.

Ac roedd gwaeth i ddod. Mewn brwydr yng ngogledd Ffrainc lladdwyd ei fab, Trevor, Ionawr 10, 1916, a'r flwyddyn wedyn, yng Ngorffennaf 1917,collodd fab arall mewn damwain awyren yn yr Aifft.

Rhyddfrydwr oedd Owen Thomas ond, yn gwbwl annisgwyl yn 1918, cafodd ei ethol yn aelod seneddol Llafur cyntaf Môn gyda David Pretty yn ei ddisgrifio fel yr ymgeisydd delfrydol i gynrychioli ffermwyr a gweithwyr ei sir.

Ai llwyddiant ynteu methiant fu bywyd Owen Thomas?

Mae'r trafod yn parhau wedi darllen y stori gyffrous y mae David Pretty yn ei gweu. Cyfrol ddirdynnol gwerth i'w darllen.

Cyhoeddir Farmer, Soldier and Politician gan Bridge Books, pris £17.99.
John Stevenson.

  • Adolygiad Saesneg gan J Graham Jones ar wefan

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.