Iaith gyflawn
Yn rhifyn mis Medi o a gyrhaeddodd ddoe mae un o'r golygyddion, Vaughan Hughes, yn taflu boncyff arall ar dân un o bynciau trafod yr Eisteddfod Genedlaethol - anallu honedig y Gymraeg i drafod rhyw.
Ond fel mae Vaughan yn ei gweld hi cyhuddiad yw hwn sy'n codi o anwybodaeth rhai pobl am y Gymraeg yn hytrach nag unrhyw ddiffyg ar yr iaith.
Mae'n gosod Jon Gower yn y garfan hon hefyd wrth roi peltan iddo yntau wedi iddo ei glywed yn dweud nad oes gan y Gymraeg ddim byd tebyg i'r ehangder ac amrywiaeth o eirfa sydd gan y Saesneg.
Yn ei druth, mae Vaughan yn cyhuddo Jon a Sian Cleaver, sy'n astudio ar gyfer gradd Meistr yn Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor, o feio'r Gymraeg am eu diffygion eu hunain yn y cyswllt hwn.
Lleisiodd Sian Cleaver ei chwyn hi yn yr Eisteddfod ar sail ei phrofiad yn cyfieithu'r nofel lesbaidd Tipping the Velvet gan Sarah Waters i'r Gymraeg.
Beiodd y Gymraeg am fod yn amddifad o eiriau i drafod rhywioldeb.
Ond fel mae Vaughan yn ei awgrymu, yr hyn ddylai hi fod wedi ei ddweud oedd na wyddai hi am eiriau Cymraeg addas nid bod yr iaith yn hysb ohonyn nhw.
"Diolch byth na ddywedodd neb hynny wrth Gwerful Mechain yn y bymthegfed ganrif," meddai'n goeglyd. "Yn wir byddai cywydd enwocaf Gwerful yn gryn gymorth i Sian Cleaver."
Aiff ymlaen:
"Unwaith eto, anwybodaeth pobol sy'n peri iddyn nhw briodoli eu methiannau eu hunain i fethiannau tybiedig y Gymraeg," meddai gan ddweud bod ganddo ef a'i gyfoedion "ddigonedd" o dermau Cymraeg "cyhyrog" am weithgareddau rhywiol.
Yn anffodus i Ms Cleaver - a ninnau o bosib - dyw e ddim yn eu cynnwys nhw na chywydd Gwerful Mechain yn Barn - ond y mae'n gwneud y pwynt y byddai cofnodi a diogelu'r termau yn "ymarferiad mwy buddiol o lawer na throsi nofel Sarah Waters i'r Gymraeg".
Go brin y byddai neb yn anghydweld â hynny a ninnau oll a'r gallu i ddarllen y nofel yn y gwreiddiol yn hytrach na rhyw ail bobiad a graswyd dan anawsterau gan gyfieithydd.
Gweithred sy'n awgrymu bod gan Sian lawer gormod o amser ar ei dwylo.
Beth bynnag rwy'n rhagweld Googlio buddiol iawn ymhlith y darllenwyr hynny o Barn nad ydynt yn gwybod am Gwerful a'i chywydd hi. Ac ydyn, mae ei hanes a'i chywydd i'w canfod ar y we.
Mwynhewch . . .
SylwadauAnfon sylw
Mae Vaughan Hughes yn llygad ei le. Cyfeiriaf yr awduron at y Rhegiadur:
Mae'r Gymraeg yn iaith fendigedig i ddisgrifio rhyw ynddi