³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia Lloyd Jones - dydd Sul

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 09:47, Dydd Llun, 1 Awst 2011

Mae Nia Lloyd Jones yn blogio bob dydd o gefn llwyfan

Diwrnod da heddiw gan ddechrau hefo chydig o brocio a phryfocio yng nghornel y Wasg gefn llwyfan, lle roedd Gwilym Owen wrthi'n brysur yn sgwennu ei sgript foreol ar gyfer y Post Cyntaf.

Nid dyn cyfrifiadur mo hwn ond un sydd â'i fys ar byls pob stori ar y Maes ac sy'n sgriblo'r cyfan ar bapur cyn camu o flaen y meic. A dydd Mawrth am hanner dydd fe fydd ei hanes o ei hun yn destun trafod difyr iawn yn y Babell Lên.

Mae'n debyg y bydd na gyfle i ambell un ei holi hefyd.

Ydi Gwilym yn poeni am hyn? Dim o gwbl, mae ei groen yn ddigon trwchus - diolch i flynyddoedd o brofiad yn ddyfarnwr pêl-droed yn yr Anglesey League ers talwm!

Roedd Lleisiau Mignedd ar y llwyfan pnawn ma - yn canu dan arweiniad Ceren Lloyd, ac mae bron bawb yn y côr yn perthyn i'w gilydd! Roedd mam Ceren yno, ei dwy chwaer a'i dwy ferch - sioe deuluol go iawn!

Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar eu llwyddiant heddiw.

Uchafbwynt y dydd i mi heddiw oedd cael sgwrs hefo Alaw o Landwrog. Dyma ichi siaradwraig! Unarddeg oed ydi Alaw ac mae hi a'r teulu ar fin symud i Bahrain.

Nia ac Alaw

Mae hi eisoes wedi bod draw yno i chwilio am dŷ, ond ar ôl edrych ar tua 28 ohonyn nhw - does ganddyn nhw'n dal ddim cartref dan sylw. Ond mae hi'n edrych ymlaen yn arw at y profiad newydd - er gwaetha'r gwres llethol. Mae sawl un wedi cyfeirio'n barod at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977 fel un ddwbl - pan wnaeth Donald Evans ennill y gadair a'r goron, ac fe gyflawnwyd y dwbl ar y llwyfan heddiw hefyd wrth i Cai Fôn Davies ennill yr alaw werin dan 12 oed, - ar ôl ennill yr unawd cerdd dant dan 12 oed ddoe hefyd.

Yn naturiol roedd o ar ben ei ddigon, a'r pres yn llosgi yn ei boced!

Ac i gloi ydach chi'n gwybod be 'di'r gwahaniaeth rhwng dawnsio disgo a hip hop? Na doeddwn innau ddim chwaith - nes i mi gael sgwrs pnawn ma hefo Marc Caldecott a Bethan Rumsey-Jones - oedd yn cystadlu ar y gystadleuaeth honno i barau heddiw.

Rŵan ta. . . sut mae egluro hyn? Wel mae 'na guriad pendant i ddawnsio disgo, ond mae hip hop yn caniatáu dawnsio mwy rhydd.

Gobeithio bod hyn yn gwneud synnwyr i chi. Os nad ydi o dowch i ngweld i gefn llwyfan, ac mi wna i roi gwers fach i chi!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:36 ar 24 Tachwedd 2011, Alaw Meleri ysgrifennodd:

    Haia Nia Alaw Yma mi rydwi nawr wedi cychwyn ysgol yn Bahrain yn St Chris a meddwl os oes gan Elin Skype neu rwbath i ni siarad. Methu Glanaethwy a Cymru yn arw.Cefais gyntaf yn St Chris Idol ond dyw St Chris idol ddim hanner mor dda a'r Eisteddfodau.Edrych ymlaen at yr 15/12/11 sef pryd dwi yn dod adre am Ddolig. Gweld chi bryd yna. Ta Ta am y tro. Alaw Meleri xxx

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.