³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwobr Pat Neill

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:59, Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011

Bydd ferch ifanc sy'n derbyn Gwobr Pat Neill i feirdd ifanc yn y Babell Lên bnawn Iau yn pontio'r blynyddoedd ag Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933.

Cyn Ymryson y Beirdd yn y Babell bydd cadair fechan Gwobr Pat Neill yn cael ei chyflwyno i Magi Tudur, Penisa'rwaun ger Caernarfon.

Yn ferch i Tudur Huws Jones golygydd Yr Herald Cymraeg ac Anna Marie, Radio Cymru, mae Magi o linach bardd o'r enw Cyngar - R E Jones o Lanberis - a oedd yn ei ddydd yn ddylanwad mawr ar T Rowland Hughes.

"Ac yr oedd Cyngar," meddai Dafydd Islwyn, ysgrifennydd Barddas, sy'n trefnu Gwobr Pat Neill "yn gyd enillydd yn Wrecsam yn 1933 gyda'i englyn, Aderyn y To."

Y dasg yn awr, wrth gwrs, yw bod y cyntaf i anfon geiriau Aderyn y To i flog Cylchgrawn.

  • Mae elfen o dristwch i'r gystadleuaeth boblogaidd hon i feirdd ifanc eleni gan i Pat Neill a'i sefydlodd yn 1987 farw yn sydyn wythnos cyn yr Eisteddfod.

    O dras Wyddelig, uniaith Saesneg oedd Pat, pan ddaeth i Gymru gyntaf wedi ymddeol o fod yn athro yn Southampton. Yn byw yng Nghross Inn dysgodd nid yn unig y Gymraeg ond y cynganeddion hefyd ac yr oedd yn ymwelydd selog â'r Eisteddfod.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:28 ar 30 Gorffennaf 2011, John Pritchard ysgrifennodd:

    S'mai Glyn.
    Gresynu na allem fod yn y Steddfod eleni yn Wrecsam.
    Cymryd diddordeb yn y cystadlu ar y wefan wrth gwrs.
    A oes posib dweud o le daw y buddugwyr yn ogystal a'u henwau.
    Tangnefedd. John O.P. Vancouver

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.