³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geirie Nhw

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:34, Dydd Gwener, 29 Gorffennaf 2011

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


  • Cryfder yr ardal yw ei phobl . . . Mae dyfodiad yr Eisteddfod wedi cynnau tân o'r newydd mewn ambell i fan gyda mwy o bobl yn mynnu addysg Gymraeg i'w plant a nifer cynyddol o oedolion yn dysgu'r iaith - Aled Roberts AC, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Wrecsam yn Rhaglen y Dydd.
  • Mae pobl Wrecsam yn falch o'u Cymreictod - rydan ni'n hoff o barti - Y Cynghorydd Ian Roberts, Maer Wrecsam, yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod.
  • Mi ydan ni wedi llwyddo i dynhau'r belt, ond dwi ddim yn gwybod faint mwy y medrwn ni dynhau - , Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghanol cyni ariannol.
  • Dydi'r dyfodol ddim yn edrych yn obeithiol gwaetha'r modd - a does yna ddim arweiniad o gyfeiriad ein prifysgolion sy'n paratoi cyrsiau mici mows a graddedigion di glem - Gwilym Owen yn mynegi barn am ddyfodol newyddiaduraeth Gymraeg yn rhifyn Gorffennaf-Awst o WA-w!
  • Dwi o hyd 'di bod yn hoff o Gwilym Owen - mae cael cyfweliad ganddo ar y radio o hyd yn bleser, yn hwyl ac yn cadw rhywun ar flaen ei draed / cadair yn barod am y cwestiwn anodd tanllyd nesa - Rhys Mwyn yn atodiad 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post'.
  • Byddai'r mwyafrif ohonom ni'r dynion yn cyfaddef na allem wneud dim hebddynt - Emyr Jones, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, yn sylweddoli yn WA-w! Gorffennaf-Awst werth merched ym myd amaeth.
  • Mae hi'n stafell y mae fy ngwraig yn gwrthod dod iddi oherwydd y llanast - Jon Gower yr awdur ynam ei stydi gartref.
  • Rhwng popeth fe fydd yna lawer iawn o gyfarfodydd a gwrandawiadau dros y blynyddoedd nesaf. Rhywbeth Cymreig iawn - Matt Withers, gohebydd gwleidyddol y 'Wales on Sunday', yn edrych yua'r dyfodol yn y Cynulliad.
  • Mae'r byd roc Cymraeg ar ei bengliniau - Meic Stevens sydd newydd gyhoeddi ei hunangofiant, Mas o 'Ma.
  • Er y bydd yn cael ei gofio fel Ifans y Tryc roedd yna fwy o lawer i Stewart na'r penci cloff hwnnw oedd yn gweiddi ac yn rantio o gwmpas y lle - Gwilym Owen, yn 'Golwg' yn cofio ei gyfaill Stewart Jones a fu farw yn 83 oed.
  • Allai ddim disgwyl dechrau dêtio. Rwy'n barod :-) Yn barod i gymysgu :-) - Imogen Thomas yn ei gwneud yn glir wrth drydar ei bod wedi dod dros Ryan Giggs.

  • Wrth wrando ar opera neu gerddorfa mi gewch weld sut yr oedd un cerddor yn creu; o wrando ar gân werin mi gewch wybod sut yr oedd pobol yn teimlo - Dylan Iorwerth yn ei golofn Gymraeg yn y 'Western Mail'.
  • Rwy'n siŵr ein bod yn mynd i mewn i hyn wedi paratoi yn fwy trwyadl nag ar gyfer unrhyw ornest o'r blaen yn hanes yr Undeb - Roger Lewis, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn canmol paratoadau Warren Gatland ar gyfer Cwpan y Byd.
  • Unwaith maen nhw'n aeddfedu a setlo, dydi'r awydd i feddwi ddim cweit mor gryf. Wel, allwch chi'm gyrru tractor na chneifio dafad yn iawn efo cur pen a stumog ddrwg - Bethan Gwanas yn atodiad 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post' lle mae'n gwadu mai "Clwb Yfed Efo Problem Ffermio" ydi'r Gymdeithas Ffermwyr Ifanc.li>

  • Y gobaith oedd torri cwys newydd o ran technegau er mwyn ennyn diddordeb seiri ifanc y dyfodol yng Nghymru - Dilwyn Jones, saer cadair Eisteddfod Wrecsam yn sôn am gydweithio gyda myfyrwyr Prifysgol Glyndwr i greu "cadair dechnegol gain sy'n ddatblygiad o arbrofi creadigol".
  • Os oes yna ddyn busnes cyfoethog yng ngogledd Cymru sy'n fodlon siarad gyda fi am brynu'r clwb y byddwn i'n ystyried chwarae fy rhan - Robbie Savage a dyfodol Clwb Pêl-droed Wrecsam.

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.