Cyryglau ar y Maes
Atyniad poblogaidd ar faes yr Eisteddfod yw pwll lle gellir hwylio mewn cwrwgl.
Trefnwyd y reidiau cwrwgl i dynnu sylw at weithgarwch mudiad Avow ar y Maes - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam.

Eglurodd Aleksandra Zembezuska, cynorthwyydd marchnata y mudiad, mai nod AVOW yw hyrwyddo cydweithrediad a chynorthwyo mewn unrhyw ffordd bosibl fudiadau gwirfoddol yn yr ardal.
"Rydym yn cysylltu holl gyfundrefnau a gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol Wrecsam ac yn hyrwyddo dinasyddiaeth, gwirfoddoli a menter gymdeithasol," meddai.
Mae'r arian o'r reidiau cwryglau yn mynd tuag at y mudiad.