³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia yn Abertawe - dydd Gwener

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 11:49, Dydd Sadwrn, 4 Mehefin 2011

  • Mae Nia Lloyd Jones ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru wedi bod yn blogio o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe bob dydd yr wythnos hon gan gyfarfod cystadleuwyr ac enillwyr lu . . .

Cymaint o bobl!
Dwi'n teimlo mod i'n sgwennu mwy bob diwrnod, ond mae 'na gymaint o bobl ddifyr o gwmpas y lle ma.....

Un o'r cystadlaethau cyntaf y bore ma oedd yr unawd piano dan 19 oed a braf iawn oedd cael sgwrs hefo'r tri gafodd lwyfan, Ifan Jenkin, Jack Marshall a Heddwen Daniel.

Mae Ifan newydd fod yn canu'r piano hefo 99 o rai eraill yn y Royal Festival Hall yn Llundain hefo'r pianydd byd enwog Lang Lang.

O'n i'n meddwl mai persawr oedd lang lang - ond diolch i Ifan dwi'n gwybod yn well rŵan!

Mae Jack a'i fryd ar fynd i Efrog Newydd i ddilyn cwrs cyfansoddi ar gyfer ffilm, ac mae Heddwen yn mynd i dreulio'r haf yn gwirfoddoli mewn ysbyty yn Lourdes.

Oce heb fod yn briliant
Cystadlu fel deuawd gerdd dant roedd Angharad a Mari o Ysgol Uwchradd Caereinion, a dyma chi gesus! Doedd na ddim pall ar y sgwrs ac o ran y canu - yn ôl Mari, "Da ni ddim yn briliant, ond 'da ni'n oce."

Cefnogwraig go iawn
Fe gafodd Kate Harwood lwyddiant yng nghystadleuaeth yr unawd merched, ac mae hi wedi cael wythnos dda iawn.

Kate

Mae Kate yn un o Jacks Abertawe, a roedd hi wedi bwriadu mynd i'r gem yn Wembley ond oherwydd gofynion eisteddfodol a'r ffaith ei bod yn rhan o'r ddefod a'r sioe gerdd ddydd Llun doedd hynny ddim yn bosib.

Felly be wnaeth y gefnogwraig ffyddlon, ond rhuthro o'r pafiliwn ar ddiwedd y ddefod ac yn syth i gar ei mam - oedd wedi parcio'n anghyfreithlon ger y Maes - ac awê am adre i weld y gêm! Bore wedyn fe aeth hi i lawr i'r Liberty a hi oedd y gyntaf i gael adnewyddu ei thocyn tymor.
Hogan lwcus iawn.

Ar y carped
Dau o'r rhai ar yr unawd bechgyn heddiw oedd Ieuan Jones a Steffan Lloyd Owen. Mae Ieuan yn treulio ei foreau Sadwrn yn gweithio i gwmni carpedi ac wedi anghofio dweud wrthyn nhw na fydd o yno fory - felly fe wnaethon ni hynny ar ei ran!

Llongyfarchiadau mawr i Steffan ar ennill y gystadleuaeth hon yn ogystal ag ysgoloriaeth yr Eisteddfod. Nid yn unig mae o'n chwaraewr pêl-droed a rygbi o fri, ond mae o'n andros o ganwr da hefyd.

Ymarfer ffôn
Llio a Naomi o Ysgol Uwchradd Tryfan enillodd y ddeuawd heddiw ac oherwydd i Llio ddod lawr i'r Eisteddfod ddechrau'r wythnos, a Naomi yn dal adra yn Llanddeiniolen, fe fu'r ddwy yn ymarfer ar y ffon!

Mae pobl yn fodlon gwneud pob math o bethau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd!!

Tristwch wrth ennill
Llongyfarchiadau mawr i Gôr Bechgyn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf dan arweiniad Delyth Medi ar ennill cystadleuaeth y côr bechgyn.

Roedd 'na lawenhau mawr gefn llwyfan ar ôl eu perfformiad er bod ambell un o flwyddyn 13 yn teimlo'n drist gan mai dyma'r tro olaf iddyn nhw berfformio hefo'r ysgol.

A dyna ni - dwi'n mynd i orwedd lawr mewn cornel dywyll rŵan - i baratoi'n feddyliol ar gyfer yr aelwydydd fory! Edrych ymlaen!

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.