Dyfyniadau
Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
- Mae wedi bod yn ormod o waith o lawer, a dw i'n teimlo nad yw'r gwaith yn cael ei werthfawrogi o bob cyfeiriad - Alan Llwyd yn rhoi'r gorau i'w waith golygu gyda Barddas.
- Mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi rhoi oes o wasanaeth am ddiawl o ddim byd, dim costau na dim - Harri Pritchard Jones, cyd gadeirydd 'Llenyddiaeth Cymru' yn cyfiawnhau yn noson mewn gwesty i 35 o aelodau'r Bwrdd Rheoli a'r swyddogion i ddathlu.
- Mi roddais fy nheulu yn gyntaf am unwaith - Ieuan Wyn Jones AC yn dychswelyd o'i wyliau.
- Y fulturiaid, fel yr ydych yn eu galw, yw'r bobl hynny a oedd yn cymeradwyo fwyaf y diwrnod mawr yna pan aeth a ni i lywodraeth am y tro cyntaf yn ein hanes - Elfyn Llwyd ar raglen y 'Politic's Show', ³ÉÈË¿ìÊÖ1.
- Fe ddylen nhw ofyn iddyn nhw eu hunain beth fyddai Owain Glyndŵr wedi ei wneud pe byddai ef yn fy lle i - Cyngor Rob Davies, colofnydd y 'Daily Post' i aelodau'r Cynulliad.
- Dydw i ddim yn gwneud unrhyw beth digon diddorol i ddweud wrth y byd - , Casnewydd, sy'n cael ei adnabod fel Father Gadget oherwydd ei fod yn defnyddio iPad mewn gwasanaethau - ond yn ymwrthod â defnyddio twitter!
- Gall fod yn anodd yn fy sefylfa i, i gyfarfod merched - Gavin Henson a fydd yn cyflwyno fersiwn Brydeinig o'r sioe Americanaidd, 'The Bachelor'. Ychwanegodd, "Credaf ei bod yr amser yn iawn imi ddod o hyd i ferch yn y gobaith o dreulio gweddill fy mywyd gyda hi."
- Mae'r glaw yn disgyn ar y cyfiawn a'r anghyfiawn medd y Beibl ond yn wir i chi y mae hi yn glawio llawer mwy yn yr Alban a Chymru nag a wna yn Lloegr. Felly y bu gydol y cyfnod o sychder diweddar - Boris Johnson sy'n awyddus i weld dŵr Yr Alban a Chymru yn cael ei gyfeirio i ardaloedd sychion deheudir Lloegr, "basged fara y wlad".
- Yn anorfod, bydd cyflwyno pobl ifainc o bob rhan o'r DU i'r ardal hon o harddwch naturiol eithriadol yn golygu y bydd pobl yn dychwelyd ar wylai am flynyddoedd i ddod ac y mae tystiolaeth eu bod eisoes - Cynghorydd Meryl Gravel, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin ar drothwy gŵyl draeth ddadleuol Penbre.
- Newyddion da yn ddiweddar oedd clywed fod nifer y Goleuad wedi dyblu mewn un eglwys - o 1 i 2. Fe wyddom am eglwys arall lle mae'r nifer wedi mynd o 2 i 6, sydd yn treblu'r nifer - Nodyn yn 'Y Goleuad', newyddiadur y Presbyteriad dan y pennawd "gwerthiant y Goleuad yn dyblu a threblu".
- Y mae gwisgo het fel gwisgo coron - Aliason Tod, hetwraig o Gymru yn ystod wythnos Ascot gan ychwanegu bod pawb eisiau edrych fel Audrey Hepburn y dyddiau hyn.
- Allen i ddim ysgwyd llaw y Frenhines - Yr Archdderwydd T James Jones yn cael ei dyfynnu yn gan ddweud na fyddai ef yn mynychu arwisgiad 'tywysog Cymru' pe byddai un heddiw fel y gwnaeth ei ragflaenydd yn 1969.
- Mae o ar ei ffordd . . . dw i'n rhyw synhwyro ers rhyw chwe mis bellach fod yna newid mawr yn dod. Mae o'n rhyfeddod i mi - Gwerfyl Pierce Jones, cyn bennaeth Cyngor Llyfrau Cymru yn rhagweld ffrwydro ym myd llyfrau yn sgil technegau fel 'Kindle'.
- Fe fyddai'n well gennym pe na byddai hyn wedi digwydd ond y mae wedi digwydd ac yr ydym yn delio af ef - Y Cynghorydd Chris Holley, arweinydd cyngor Abertawe am .
- Dydy o ddim yn ateb hud ond mae'n help - Ian Lucas AS sy'n cefnogi cais tref Wrecsam i'w dynodi'n ddinas.
- . . . y ddrama gyfres 'amaethyddol' ddi-fuwch, ddi-ddafad, ddi-gic, honno - Disgrifiad Elfyn Pritchard o 'Pwllpenwaig' yn ei golofn S4RC yn 'Y Goleuad'.
- Rhaid i rai sy'n cymryd rhan drefnu ymlaen llaw a bod yn barod i eistedd yn ddistaw am gyfnodau hirion - Cyfarwyddyd yn y 'Daily Post' i rai sydd am ymuno â 'Badger Watch'; ym Mharc Wepre, Cei Connah.
- Dyw e ddim yn esgus ond rhaid ichi werthfawrogi fod bechgyn Seland Newydd yn aeddfetach na'n bechgyn ni - Phil Davies wedi i dîm rygbi dan ugain oed Cymru golli 90-0 i' 'Baby Blacks'.
- Dylai pwy bynnag ddaeth i'r penderfyniad o ganiatáu glas ar git Lerpwl blygu eu pennau mewn cywilydd - Arthur Kayll, ysgrifennydd Clwb Cefnogwyr Lerpwl, gan ychwanegu bod rhoi glas ar git oddi cartref y tîm yn "sarhad" ar gefnogwyr.