Canwr y Byd 2011 - Pnawn Mawrth
Cyhoeddwyd y pnawn yma pwy fydd y pump, allan o'r 15 oedd yn cystadlu, sy'n canu yn ffeinal Gwobr Datganiad Canwr y Byd Caerdydd y ³ÉÈË¿ìÊÖ.
Daeth y cyhoeddiad ar ddiwedd yr olaf o'r rowndiau rhagbrofol yn y Theatr Newydd, Caerdydd, y pnawn 'ma.
Y pump yw:
- Andrei Bondarenko, Wcrain
- Leah Crocetto, Unol Daleithiau
- Máire Flavin, Iwerddon
- Olga Kindler, Y Swisdir
- Valentina Naforniţă, Moldofa
Bydd yr ornest derfynol yn Neuadd Dewi Sant am 7.30 nos Wener gyda £5.000 i'r canwr buddugol a chyfle i ymuno â Chynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd Radio 2.
Mae rhai tocynnau yn dal ar gael ar gyfer y noson.