³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwybod - ond methu dweud

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:39, Dydd Llun, 11 Ebrill 2011

Ym myd papurau newydd ai y cyfoethog yn unig all fforddio dweud y gwir i gyd bellach?

Yn y papur Sul ddoe, wrth drafod cyfraniad y newyddiadurwraig Jemima Khan - a'r rhifyn arbennig o'r New Statesman a olygodd yn cynnwys Y Cyfelwiad yna efo Nick Clegg ynddo - mae'r newyddiadurwr Henry Porter a fu'n cydweithio â hi ar ei hymgyrchoedd hawliau sifil yn ei disgrifio fel rhywun "reit eofn a chwbl ddiffuant" - "a bit fearless and utterly genuine".

Ond mae'n ychwanegu: "Ac ydi, mae hi'n haws bod yn eofn os oes gennych chi arian . . . - and yes it's easier to be fearless if you've got Money."

Geiriau a ganodd gloch yn syth am yr hyn a ddywedwyd wythnos ynghynt gan un o olygyddion , Vaughan Hughes, wrth drafod helyntion Cyngor Môn yn ei golofn Cwrs y Byd yn rhifyn Ebrill o'r cylchgrawn hwnnw.

Cwyno'r oedd o nad aeth neb - gan gynnwys Carl Sargeant, y gweinidog llywodraeth leol yn y Cynulliad, a'r Wasg Gymreig yn ei holl ogoniant - cyn belled ag enwi yr hyn a alwodd Vaughan yn "ddyrnaid o gynghorwyr" sydd wrth wraidd helyntion y cyngor trafferthus hwn er bod "peth wmbredd ohonom" yn gwybod yn iawn pwy ydyn nhw.

"Ond dyw'r Sargeant hyd yn oed, ddim wedi meiddio enwi'r dyrnaid o gynghorwyr sydd wrth wraidd trafferthion blin y cyngor," meddai cyn mynd ymlaen i sôn hefyd am amharodrwydd y wasg hithau i enwi'r enwau.

"Bu gan y gweinidog a phawb arall a fu wrthi'n ofer yn arolygu'r cyngor ar gost anferthol, ormod o ofn gwneud hynny," meddai gan ychwanegu:

"Dydw innau, felly, ddim yn mynd i chwarae rhan yr arwr ffôl a chael fy erlyn am ddifenwi pileri cymdeithas. Oherwydd dyna sut y byddai bargyfreithwyr drudfawr yn portreadu'r cynghorwyr hyn. Fyddai golchi'r Ethiop du yn wyn, ys dywed yr emyn gwleidyddol anghywir, ddim ynddi!

"Newyddiaduraeth sâl," meddai wedyn, "yw peidio enwi'r cynghorwyr dinistriol. Ond dydi Barn ddim gwahanol i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ a'r wasg a'r cyfryngau Cymreig a Chymraeg yn eu cyfanrwydd. Rydan ni i gyd yn euog," meddai.

Ac wrth ddweud hynna mae Vaughan yn codi pwynt allweddol a sylfaenol am natur a gwerth ein newyddiaduraeth yng Nghymru ac fe ddylai gweld golygydd cylchgrawn materion cyfoes yn cydnabod nad yw'n barod, oherwydd tlodi ariannol, i ddatgelu'r gwir a ŵyr achosi rhywfaint o gryndod.

Mae'n sobor o beth mewn gwirionedd.

Tybed fydd golygydd y Lol nesaf yr un mor nerfus?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:43 ar 12 Ebrill 2011, Hywel ysgrifennodd:

    Pwy oedd y 'bobol ddrwg' a enwyd gan Clive McGregor rai wythnosau'n ol felly? Mi oedd ganddo bump o enwau parod a welwyd yn y wasg.

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.