Criw o rai sâl
Ydi adolygwyr Cymraeg werth eu halen? Dyna'r cwestiwn a godwyd gan bennaeth un o weisg mwyaf blaenllaw Cymru.
A'n cael ni yn eisiau.
Yn sgrifennu yn y Western Mail bythefnos yn ôl dywedodd Lefi Gruffudd o'r Lolfa;.
" . . . mae na wendid amlwg o ran adolygwyr . . . mae'n ymddangos fod yna brinder o adolygwyr cymwys," medda fo gan nodi hefyd bod yna brinder lle i gyhoeddi adolygiadau.
"Ges i nodyn gan un awdur yn ddiweddar yn cyfleu'r pryderon 'nad oedd digon ohonyn nhw [adolygwyr] i adlewyrchu'r ystod eang o genres mewn llenyddiaeth Gymraeg gyfoes'.
"Mae prinder adolygwyr yn golygu fod cyhoeddwyr ac awduron yn gorfod dibynnu ar adolygwyr sydd ddim yn darllen, deall na hoffi yr hyn maen nhw'n ei adolygu," meddai.
Ac mae honno'n gwyn mwy difrifol na'r un am brinder. Y gwyn nad ydym i fyny a'r job ac yntau'n dweud; "Mae ambell adolygiad yn ymddangos fel ffrwyth prosiect TGAU."
Ac mae'n gofyn, "Onid yw'n rhyfeddol faint o adolygiadau diddrwg-didda sy'n cael eu cyhoeddi am lyfrau Cymraeg?"
Cri o'r galon gan gyhoeddwr sydd a phedwar llyfr ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn eleni.
Dyma un o'r pynciau gafodd eu trafod ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, heddiw am chwarer wedi un ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru, gyda Sioned Williams, Catrin Beard a Bethan Mair yn cymryd rhan - tair yn adolygwyr blaenllaw.
Gellir clywed beth oedd ganddyn nhw i'w ddweudar wefan y rhaglen - trafodaeth ddifyr iawn yn cael ei dilyn gan eitem gyda Meirion Prys Jones am swyddogaeth Bardd Plant Cymru.