³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia 'Nglynebwy - Mercher

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 13:02, Dydd Iau, 5 Awst 2010

Mae Nia Lloyd Jones Radio Cymru yn sibrwd o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent gydol yr wythnos.

Diwrnod gwahanol iawn heddiw - mi dreuliais i'r bore yn y stiwdio hefo Rhiannon Lewis yn sylwebu ar y cystadlaethau.

Ydi, mae'n braf cael newid ond dio'm hanner cystal â bod gefn llwyfan - fanno mae'r bobl a fanno mae'r straeon.

Mi ges i bnawn i mi fy hun wedyn - gan ein bod ni'n gweithio'n hwyr. Felly ar ôl crwydro rownd y maes - mi es i draw i Theatr y Maes - i wrando ar drafodaeth ar waith Saunders Lewis.

Difyr iawn - ond fel yr oedd y drafodaeth yn cynhesu, bu'n rhaid dod a hi i ben - oherwydd gofynion amser. Mi arhosais i yno wedyn i wrando ar rai o gystadleuwyr Gwobr Richard Burton.

Ac o'r diwedd dyma fi nôl gefn llwyfan ar gyfer cystadlu'r nos.

Roedd Dafydd Wyn Rees yn cystadlu yng nghystadleuaeth Gwobr Richard Burton - y tro cyntaf iddo gael llwyfan yn y gystadleuaeth hon ac yn naturiol roedd o'n nerfus iawn.

Ar ôl camu i'r llwyfan a dechrau perfformio bu'n rhaid iddo adael ac ail ddechrau - oherwydd problemau technegol. Creadur bach. Roedd y rhyddhad yn amlwg iawn wedyn.

Mi wnes i deimlo'n hen heddiw - pan welais i Sara Lian Owen ar y llwyfan. Dyma chi gantores ifanc dalentog a'r cof sydd gen i ohoni ydi ohoni'n ferch ysgol rai blynyddoedd yn ôl ac yn cael llwyddiant mawr yn unigol ac fel rhan o ddeuawd hefo'i chwaer.

Mae hi newydd raddio o'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a'i bryd ar astudio cwrs opera yn y dyfodol.

Tydi hi ddim wedi cystadlu ers chwe blynedd ac roedd hi'n hyfryd ei gweld hi eto.

Ond wnes i ddim mo'i hadnabod yn syth, a wnaeth hithau ddim fy adnabod innau chwaith.

O diar, ydw i wedi heneiddio gymaint a hynny?

Noson Dyfed Cynan oedd hi heno - fo enillodd y Richard Burton ac Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts.

Dyma ichi dalent ac yn fachgen hoffus a gwylaidd iawn a newydd orffen ei flwyddyn gyntaf yn Ngholeg Central yn Llundain.

Cafodd glod uchel iawn gan y beirniad a dwi'n edrych ymlaen at weld ei yrfa yn datblygu.

Criw cefn llwyfan - gweithgar a direidus
Roeddwn i'n dweud ddydd Sadwrn bod yna lun wedi ei dynnu o'r criw o weithwyr direidus gefn llwyfan - wel dyma fo!

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.